Â鶹Éç

Ioan Gruffudd yn 'Horrible Bosses'

Ioan Gruffudd

11 Awst 2011

Horrible Bosses

15Dwy seren allan o bump

  • Y Sêr: Jennifer Aniston, Jason Bateman, Charlie Day, Colin Farrell, Jamie Foxx, Ioan Gruffudd, Kevin Spacey a Jason Sudeikis.
  • Cyfarwyddo: Seth Gordon.
  • Sgrifennu: Michael Markowitz, John Francis Daley a Jonathan Goldstein.
  • Hyd: 98 munud

Caff gwag Ioan

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Yn dilyn ymweliad diweddar y cymeriad Megan Harries â phentre Cwmderi efallai y byddai'n syniad da i'w mab Gareth Wyn wneud yr un fath.

Yn sicr, o brofi cameo Ioan Gruffudd yn y gomedi honedig Horrible Bosses, nid drwg o beth fyddai i'r Cymro alltud brofi bach o rehab gyrfaol, a hynny dros beint o Gic Mul gyda Hywel a Denz.

Mae'n wir i fragdy'r Cwm ddiflannu rai blynyddoedd yn ôl ond os na fydd Gruffudd yn fwy gofalus wrth dderbyn rhannau actio mae peryg i'w yrfa yn LA brofi'r un ffawd yn union.

Yn Horrible Bosses mae gofyn iddo bortreadu putain a chanddo arbenigedd mewn campau dŵr- sefyllfa sy'n bodoli oherwydd camddealltwriaeth ar ran y triawd sy'n ganolbwynt y ffilm, wrth iddynt geisio darganfod hit-man i lofruddio eu bosus ffiaidd.

Y mae'r tri ffrind - a chwareir gan Jason Bateman, Charlie Day a Jason Sudeikis - yn gaeth i swyddi diflas a wneir yn ganmil gwaeth diolch i ymddygiad afresymol eu rheolwyr - Kevin Spacey, Jennifer Aniston a Colin Farrell.

Cadarnheir yn go gynnar nad yw ymddiswyddo'n ddewis i'r un ohonynt diolch i'r dirwasgiad diddiwedd ac felly, yn ôl synnwyr Hollyweird, yr unig ddewis yw cael gwared â'u gelynion unwaith ac am byth.

Ond sut goblyn mae canfod y dyn i wneud y job? Trwy drugaredd, caiff y gynulleidfa ei gwaredu rhag gweld Gruffudd yn cyflawni hara-kiri Hollywoodaidd trwy fflachio'i ffetish ond y mae'r olygfa fer yn adlewyrchu safon hiwmor tu hwnt o druenus gweddill y ffilm.

Gwastraff llwyr

Ymddengys i'r sêr mawrion gytuno i chwarae'u cymeriadau hunllefus ar sail sgript wreiddiol a oedd, mae'n debyg, yn byrlymu o ffraethineb ond mae gen i ofn fod y tri wedi'u gwastraffu'n llwyr ar y deunydd dan sylw.

Dwi wedi hen golli diddordeb yng ngyrfa Jennifer Aniston beth bynnag, ond roedd ei phenderfyniad i geisio gwyro'i delwedd merch-drws-nesa wrth bortreadu nymphomaniac o ddeintyddes a chanddi geg front yn un cwbl ofer gan fod gweddill y ffilm yn folawd amlwg i fisogenistiaeth.

Alla i 'mond ddychmygu mai ar sail ariannol y cytunodd cyfarwyddwr artistig theatr yr Old Vic, Kevin Spacey, i chwarae'r cadeirydd creulon David Harken - cymeriad sydd ddim hanner mor fygythiol â'r bosus chwaraeodd o yn Glengarry Glen Ross a Swimming With Sharks 'nôl yn y Nawdegau.

Cymeriad yr hoffwn fod wedi gweld mwy ohono oedd playboy pathetig Colin Farrel - yr unig aelod o'r cast i synhwyro'n gynnar pa mor erchyll yw'r ffilm hon ac a benderfynodd os oedd am chwarae kung-fu coke-head ei fod am fynd amdani go iawn a mynnu bol cwrw prosthetig i gyd-fynd â'r comb-over seimllyd.

Methu'n llwyr

O gofio mai stori'r tri ffrind sy'n ganolbwynt i'r ffilm hon mae gen i ofn i'w hymdrechion i geisio darbwyllo'r gynulleidfa mai criw The Hangover 3 sydd yma dan sylw fethu'n llwyr ac, yn waeth byth, ceisiodd y cyfarwyddwr bapuro dros y gwendidau amlwg wrth bentyrru'r ffilm â chyfeiriadau at glasuron comig eraill, gan wneud smonach llwyr o "deyrnged" i un o olygfeydd doniolaf Woody Allen yn Annie Hall.

Ond coeliwch neu beidio mae llygedyn o obaith i yrfa Ioan Gruffudd wrth i'w flynyddoedd o ymdrechu am ran uchel-ei-phroffil dalu'i ffordd o'r diwedd, a hynny ar yr union adeg y daeth cyfnod Mathew Rhys fel aelod o deulu Walker cyfres Brothers & Sisters i ben.

Yn dilyn "peilot" llwyddiannus ddechrau'r Haf, cadarnhawyd y bydd cyfres deledu antur The Ringer yn cychwyn darlledu ganol mis Medi gyda Sarah Michelle Gellar (Buffy the Vampire Slaye gynt) yn chwarae rhan efeilliaid, a Ioan yn chwarae un o'r gwÅ·r.

Ie, ail fanana eto fyth. Ond gwell ail fanana nag afal pwdr. 'Mond gobeithio na wnaiff yr hen Ioan lithro ymhellach i ddyfnderoedd Hollyweird.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.