Â鶹Éç

Inglourious Basterds

Golygfa o'tr ffilm

27 Awst 2009

18Pedair seren

  • Y Sêr: Brad Pitt, Diane Kruger, Christoph Waltz, Michael Fassbender, Mélanie Laurent, Eli Roth.
  • Cyfarwyddo: Quentin Tarantino.
  • Sgwennu: Quentin Tarantino.
  • Hyd: 153 munud

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Lle mae dechrau ag Inglourious Basterds?

Gadewch imi gadarnhau yn gyntaf fod y cynhyrchiad hirddisgwyliedig hwn yn sicr yn haeddu'r heip a fu ers ei ddangosiad cyntaf yng ngŵyl ffilm Cannes yn gynharach eleni.

Yn ail, mae na reswm penodol am y camsillafu amlwg yn y teitl bombastig, gan mai teyrnged o fath yw, a hefyd ffordd o wahaniaethu rhwng y ffilm hon a'r B-Movie Eidalaidd Quel maledetto treno blindato (a ryddhawyd yn Saesneg ym 1978 fel The Inglorious Bastards), sydd ymhlith hoff ffilmiau Tarantino.

Ac yn drydydd, mae'n bosib mai dyma'r agosaf y mae'r ü²ú±ð°ù-´Ú¾±±ô³¾-²µ±ð±ð°ì o Tennessee wedi dod at greu campwaith i gystadlu â'i magnum opus, Pulp Fiction.

Dros ddeng mlynedd

Cyfaddefodd yr auteur amatur iddo gymryd dros ddegawd i wireddu'i freuddwyd fawr o gyfuno'i ddau hoff genre mewn un ffilm, sef y Ffilm Ryfel a'r Spaghetti Western, ac yn fy marn i, bu'n werth aros.

Mae Inglourious Basterds ymhell o fod yn ffilm berffaith ond mae'n cynnig dwy awr a hanner o adloniant pur sydd - fel y rhan fwyaf o'i gynyrchiadau - yn cynrychioli llythyr o serch i hanes y sinema.

Yn sylfaenol, cynnig cip alternatif ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd wna'r ffilm hon, sy'n dilyn cynllun i ddienyddio arweinwyr y Blaid Natsîaidd ym Maris ym 1944, felly er eich lles eich hunain, anghofiwch bopeth a wyddoch am ddyddiau olaf Hitler yn ei guddfan ym Merlin ym 1945.

Sawl Stori

Fel nifer o ffilmiau eraill gan Tarantino, mae'r ffilm yn cyflwyno sawl stori sydd yn cydredeg â'i gilydd, ond sy ddim yn cyfarfod yn iawn tan y diweddglo ymfflamychol.

Canolbwyntia'r stori gyntaf ar hanes Iddewes ifanc, Shoshanna Dreyfus (Mélanie Laurent), sydd yn dianc o grafangau Hans Landa, cyrnol uchel ei barch ymhlith y Natsîaid wedi ei lysenwi The Jew Hunter.

Ail gyfarfyddwn Shoshanna yn nes mlaen fel perchennog sinema Art-Deco ym Mharis, sy'n arddangos tymor o ffilmiau gan Leni Riefenstahl.

Cawn hefyd gyflwyniad i'r Inglourious Basterds bondigrybwyll, sef undeb answyddogol o filwyr Iddewig-Americanaidd élite a hynod ddichellgar.

Dan arweiniad eu lefftenant, Aldo Raine (Brad Pitt), cânt eu gorchymyn i lofruddio'r Natsïaid yn y modd mwyaf brwnt posib ac ymhen dim, daw'r gelyn - a ninnau- yn dystion i'w gorchestion gwaedlyd.

Saethwr

Yn y cyfamser, down i adnabod y saethwr ifanc Frederick Zoller (Daniel Brühl) - arwr i'r fyddin Almaenaidd am lofruddio dros 300 o filwyr Americanaidd ar ei liwt ei hun, a seren y ffilm bropaganda newydd sbon gan Joseph Goebbels, Nation's Pride, sy'n seiliedig ar ei orchestion ar faes y gad.

Mae'r milwr ifanc yn mopio'n lân â pherchennog y sinema ym Mharis, ac yn awgrymu wrth Goebbels y dylai ±è°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð mawreddog y ffilm- yng nghwmni haenen ucha'r blaid Natsïaidd - gael ei gynnal yno.

Daw sawl un i wybod am y newyddion hwn; yn eu plith, yr Inglourious Basterds, a hefyd y seren ffilm Bridget von Hammersmark (Diane Kruger), a gyflwynir fel Dietrich dwyllodrus, wrth iddi gydweithio â'r fyddin Brydeinig - yn benodol, Lefftenant Archie Hicox (Michael Fassbender), dyn sy'n gyfarwydd iawn â'r sinema Almaeneg, gan mai beirniad ffilm ydoedd cyn y rhyfel.

Afraid dweud y caiff sawl cynllwyn ei ddatblygu ar sail y wybodaeth yma, ond ni hoffwn ymhelaethu rhagor rhag eich amddifadu o un o'r ffilmiau mwyaf dyfeisgar - os braidd yn dreisgar - i mi ei gweld ers amser.

Ei beirniadu

Fodd bynnag mae'n ffilm hefyd a feirniadwyd yn hallt oherwydd ei ffordd gartwnaidd o ddelio â thrais annynol yr Ail Ryfel Byd ac am wyrdroi ffeithiau i siwtio chwaeth cynulleidfa fodern sydd wedi arfer â gemau cyfrifiadurol a ffilmiau Torture-Porn fel cyfres ddiweddar Hostel gan y cyfarwyddwr Eli Roth - sydd yma'n chwarae rhan un o'r Basterds, ac yn gyfrifol am gyfarwyddo'r ffilm o fewn ffilm, Nation's Pride.

Does dim dwywaith fod Inglourious Basterds yn haeddu'r tystysgrif 18 ond fel un sydd yn casáu gweld trais ar y sgrin fawr, rhaid dweud imi ddisgwyl gwaeth o lawer nag a welais yma ac, yn wir, imi gael fy ngwefreiddio'n llwyr gan elfennau eraill fel y trac sain trydanol, deialog ddifyr ac actio caboledig.

Acen Pitt

Er mai Brad Pitt sy'n cael ei ystyried yn seren y ffilm rhaid dweud i'w benderfyniad i gyflwyno acen dros ben llestri ei gwneud yn anodd i gymryd ato'n llwyr.

Ydy, mae "Apache" Aldo Raine o Smoky Mountains Tennesse yn llwyddo i ddifyrru, ond dydy Brad ddim yn creu hanner cymaint o argraff â nifer o'r actorion eraill, gan gynnwys Mélanie Laurent, Diane Kruger, a Til Schweiger, fel y Basterd mwyaf cofiadwy, Sgt. Hugo Stiglitz.

Teg hefyd fyddai canmol gwaith Michael Fassbender, y Gwyddel o dras Almaenig sydd yma'n chwarae rhan cymharol fechan fel milwr Prydeinig hen ffasiwn ac sy'n prysur sefydlu'i hun fel y Ralph Fiennes newydd.

Actor gorau

Ond mae yma un actor sydd ben ac ysgwydd uwchben y lleill, yr Awstriad Christoph Waltz ac nid yw'n syndod o gwbl iddo gael ei enwi yr Actor Gorau yng ngŵyl Cannes eleni am ei bortread o un o'r baddies gorau yn hanes y sinema, Col. Hans Landa.

Dyma'r un cymeriad sydd yn llwyddo i gynnal ei bresenoldeb bygythiol gydol y ffilm, ac mae'r olygfa sinistr rhyngddo ef a Shoshanna, dros blatiad o ²õ³Ù°ùü»å±ð±ô a glasied o laeth yn ddosbarth meistr mewn creu tensiwn sinematig.

Ac os ydych yn dal yn ansicr ynglŷn â phriodoldeb cynhyrchu ffilm o'r fath yn y lle cyntaf, dychmygwch Saunders Lewis yn sgrifennu Brad yn dilyn sesiwn trwm o wylio Where Eagles Dare, Cross of Iron a The Dirty Dozen un atr ôl y llall - a hynny tra'n bwyta bowlenni di-ddiwedd o Cap'n Crunch i gyfeiliant CD o oreuon Ennio Morricone.

Sefyllfa gwbl anghredadwy, efallai, ond weithiau - fel yn y ffilm hon - mae'n hwyl dyfalu, "Beth os ...?"


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.