Â鶹Éç

Gildas

Gildas

'Cadwch eich clustiau a'ch llygaid yn agored... am grwydryn a'i gitâr a byddwch yn barod i gael eich swyno." (Casia Wiliam)

Arwel Lloyd Owen yw 'Gildas'. Yn brif gitarydd yr Al Lewis Band mae Arwel wedi dangos ei fod yn meddu ar y talent i berfformio fel artist unigol yn ogystal.

Yn wreiddiol o Lansannan, astudiodd Arwel Hanes yn y Brifysgol cyn troi ei olygon at Gerddoriaeth. Ei gefndir hanesyddol wnaeth roi'r ysbrydoliaeth iddo ddewis yr enw 'Gildas', er cof am y Mynach Cymreig o'r un enw fu'n pererindota trwy Gymru yn y 6g ac yn cofnodi digwyddiadau'r dydd yn ei weithiau.

Rhyddhaodd ei albwm gyntaf, Nos Da ar label Sbrigyn Ymborth yn 2010 a chafodd cryn ganmoliaeth gan y beirniaid:

"O'm safbwynt i, roedd Nos Da yn un o albyms Cymraeg gorau 2010, os nad y gorau ohonyn nhw..." (Owain Schiavone)

Mae Gildas yn defnyddio dulliau anghyffredin i greu sain unigryw fel 'delays' annisgwyl, tiwnio gwahanol i'r arfer a chyfuno'r electroneg gyda'r gwerin. Disgrifir ei ganeuon fel hwiangerddi modern ac mae wedi enwi Chet Atkins, Doc Watson ac eraill ymhlith ei ddylanwadau cerddorol.

Dyma dalent newydd cyffrous, yn drwbador Cymreig i'r oes fodern.

Sesiynau

Coeden Nadolig C2

Caneuon Nadolig Sesiwn C2

Caneuon Nadoligaidd â recordiwyd yn arbennig i C2.

Gildas

11 Mehefin 2009

Sesiwn gan Gildas - 3 cân newydd

Gildas

11 Mehefin 2009

Sesiwn gan Gildas - 3 cân newydd

Adolygiadau

gildas

Gildas - Nos Da

02 Awst 2010

Beth yw barn yr adolygwyr am albym Gildas - Nos Da?

Eraill


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

Â鶹Éç Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.