Brenin yr anthemau pop a'r baledi myfyriol sydd wedi cyrraedd uchelfannau poblogrwydd yn y sin roc Gymraeg.
Aelodau presennol band Bryn F么n
- Bryn F么n: Llais
- Neil Williams: Bas
- John Williams: Allweddellau
- Graham Land: Drymiau
- Rhys Parry: Git芒r
- Si芒n Land: Llais
- Nia Plas: Llais
Go brin fod neb arall sy'n canu'n Gymraeg yn unig wedi diddanu cymaint o gynulleidfa dros yr ugain mlynedd diwethaf na Bryn F么n.
Yn anterth Sobin a'r Smaeliaid ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau, dyma oedd prif gr诺p Cymru, a Bryn F么n oedd pin-up miloedd o ferched ledled Cymru.
Caneuon anthemig poblogaidd oedd rhai Sobin, yn eu plith Meibion y Fflam, c芒n yn gwawdio'r heddlu am fod mor ddi-glem wrth chwilio am losgwyr Meibion Glynd诺r. Wedi i Bryn F么n ei hun gael ei arestio yn 1991 ar amheuaeth o fod yn un o'r Meibion, dim ond tyfu wnaeth ei boblogrwydd ymysg cefnogwyr o bob oed.
Yn 1994, daeth cyfeiriad newydd wrth iddo recordio albwm o ganeuon mwy myfyriol, Dyddiau Digymar - ac ers hynny, mae wedi perfformio fel Bryn F么n a'r Band. Yn 2001 sefydlodd y gr诺p eu label eu hunain, gan barhau i recordio a pherfformio yn gyson oddi ar hynny. Rhyddhaodd ddwy albym newydd-'Abacus' yn 2008 ac 'Y Goreuon 1994 - 2005" yn 2009.
Yn ogystal 芒'r caneuon pop cofiadwy, mae Bryn F么n ar ei orau yn canu caneuon a baledi canu gwlad melodaidd rhai o gyfansoddwyr gorau Cymru, Emyr Huws Jones ac Alun 'Sbardun' Huws. Fel Dafydd Iwan o'i flaen, mae Bryn F么n yn un o'r ychydig o berfformwyr Cymraeg sydd wedi llwyddo i ehangu poblogrwydd canu Cymraeg y tu hwnt i'r indie kids a'r gynulleidfa golegol, gyfryngol arferol.
Newyddion
Albym newydd Bryn Fon
02 Tachwedd 2007
Bydd albym newydd Bryn F么n a'r Band - Toca - yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 1af.
Albym newydd Bryn Fon
02 Tachwedd 2007
Bydd albym newydd Bryn F么n a'r Band - Toca - yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 1af.
CDs Pesda Roc a Mim Twm
Gorffennaf 7, 2005
Adolygiadau
Erthyglau
Bryn F么n
Chwefror 19, 2004
Bryn F么n
Chwefror 19, 2004
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Parti "foam" Maes B, albym newydd Meic Stevens a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
麻豆社 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.