Gwerthwyd 100 o luniau rhifedig a mowntiedig, wedi eu llofnodi gan yr artist, Ogwyn Davies, Tregaron.
Ganwyd Ogwyn Davies yn Nhrebanos, Cwm Tawe yn 1925 a symudodd i Dregaron hanner canrif yn ôl lle bu'n dysgu fel athro celf yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae ei luniau yn gyfarwydd i gasglwyr a mynychwyr arddangosfeydd ledled Cymru, lluniau sy'n creu naratif o Gymru drwy gyfrwng paent, geiriau, symbolau ac elfennau ffigurol.
Hwyrach mai ei lun enwocaf yw hwnnw o Soar y Mynydd, gyda geiriau emynau yn codi allan o'r muriau a'r to, gan hofran yn yr awyr. Saif ochr yn ochr â 'Salem' Curnow Vosper fel un o eiconau Cymru.
Prif nodwedd y darlun o'r gors yw'r lliwiau sy'n nodweddiadol o'r fangre, lliwiau brown, glas, melyn a llwyd. Mae'n llun argraffiadol sydd hefyd yn adlewyrchu elfennau haniaethol. Mae'r dewis o'r llun arbennig hwn yn un addas iawn fel lleoliad ac fel symbol gan fod Cors Caron ynghanol dalgylch yr Å´yl. Yn wir, mae'n ymylu'n ddaearyddol ar nifer o'r ardaloedd sydd o fewn dalgylch bro'r Å´yl.
Hoffai Pwyllgor yr Å´yl Cerdd Dant ddiolch i Ogwyn Davies, ac i berchennog y llun gwreiddiol, Dr Mair Beetham, Llundain (gynt o Dregaron) am eu caniatad caredig i atgynhyrchu a marchnata'r llun.
Y llun: Yr arlunydd Ogwyn Davies yn cyflwyno'r print cynta o'i lun o Gors Caron i Ian Huws, cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd.
Mwy am yr Å´yl Gerdd Dant
|