Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wyddech chi hyn
Ambell i ffaith am y Llyfrgell Genedlaethol
  • Mae pedair miliwn a hanner o lyfrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a 40,000 o lawysgrifau.

  • Mae dros ddwy fil o lythyrau oddi wrth Lloyd-George at ei wraig wedi eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol a 3,200 at ei frawd William George.

  • Mewn llythyr at Owain Myfyr yn 1804 amlinellodd Iolo Morganwg fwriad i gyflwyno ei holl lyfrau a'i lawysgrifau Cymraeg i lyfrgell genedlaethol, pe byddai'n cael ei sefydlu cyn 1820.

  • Mae llechi o Ystrad Fflur gydag ysgrifen a phatrymau yn dyddio o'r bymthegfed ganrif arnynt wedi eu cadw yn y Llyfrgell.

  • Mae miliwn o fapiau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

  • Mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug yn 1873 y sefydlwyd pwyllgor i sefydlu llyfgell genedlaethol yng Nghymru er i Gymru Llundain wyntyllu'r syniad yn y ddeunawfed ganrif.

  • Mae yno dros 5,000 o luniau wedi'u fframio a 40,000 o luniau eraill sy'n cynnwys printiau, peintiadau, cartwnau ac yn y blaen.

  • Yr oedd Syr John Williams, un o arloeswyr sefydlu'r Llyfrgell, yn un o feddygon y Frenhines Victoria.

  • Mae copi yn dyddio o 1899 o'r recordiad cyntaf erioed o Hen Wlad fy Nhadau yn y Llyfrgell.

  • Un o drysorau mwyaf y Llyfrgell Genedlaethol yw Llyfr Du Caerfyrddin - y llawysgrif hynaf yn y Gymraeg ac yn dyddio o 1250.

  • Mae cydyn o wallt William Williams Pantycelyn yn y Llyfgell - cochyn cyrliog oedd o!

  • Yr oedd Caerdydd yn awyddus i gartrefu'r Llyfrgell Genedlaethol ond bu'n rhaid iddi fodloni ar yr Amgueddfa Genedlaethol yn unig, a sefydlwyd yr un flwyddyn 1907.

  • Enillodd Aberystwyth y dydd oherwydd bod y dref yng nghanol y Gymru Gymraeg ac oherwydd bod yno gychwyn llyfrgell sylweddol yn barod gyda Syr John Williams yn trosglwyddo 25,000 o gyfrolau'i lyfrgell breifat ef.

  • Dan y ddeddf hawlfraint mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 1911 yn un o ddim ond pum llyfrgell Brydeinig (Llundain, Caeredin, Rhydychen a Chaergrawnt yw'r lleill) lle mae'n rhaid anfon copi am ddim o bob eitem brintiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon.

  • Yma y mae'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lyfrau Llydewig.

  • Mae fersiwn pwysig o'r Canterbury Tales, Chaucer, yn y Llyfrgell.

  • Mae holl adnoddau y Llyfrgell ar gael i bawb dros 16 oed i'w gweld yn yr ystafelloedd darllen yn rhad ac am ddim.

  • Gellir prynu lliain golchi llestri gyda llun Castell Aberystwyth arno yn siop y Llyfrgell.

  • Ymhlith y llyfrau Cymraeg hynod yn y Llyfrgell mae Testament Newydd William Salesbury 1567, Beibl William Morgan 1588, y Drych Cristionogawl 1587, y llyfr cyntaf i'w argraffu yng Nghymru, Llyfr Taliesin a Llyfr Gwyn Rhydderch.


  • Trefi
    Llyfrau
    Papurau Bro


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý