Mae un o swyddogion y Llyfrgell Genedlaethol yn ymweld â threfi a phentrefi yn yr Unol Daleithiau a sefydlwyd gan Gymry.
Dywedodd y Dr Menna Morgan sy'n gofalu am 'Broject Cymru-Ohio' yn y Llyfrgell y bydd yn ymweld
â lleoedd fel Shandon - neu Paddy's Run fel y'i gelwid yn wreiddiol - Columbus, Oak Hill - lle mae amgueddfa Gymreig - Canolfan Madog yn Rio Grande, Granville, y "Welsh Hills", Gomer a Venedocia, rhwng 22 Medi a 13 Hydref 2007.
Yn ystod ei hymweliad bydd yn hyrwyddo gwefan ddwyieithog newydd y Llyfrgell, Project Ohio, sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau Cymry a ymfudodd i Ohio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn casglu deunydd ar ei chyfer.
Isod, mae'r Dr Morgan yn sôn am y wefan ac am y Cymry hynny a fentrodd i geisio bywyd gwell ym mherfeddion gogledd America:
"Mae hanes sefydlu un o gymunedau Cymreig mwyaf poblog a mwyaf enwog America yn dechrau ym 1818, pan fentrodd chwe theulu estynedig o ardal Cilcennin ar draws yr Iwerydd i geisio bywyd gwell.
Ymgartrefodd "Cymry 1818" yn ne ddwyrain Ohio ond ychydig iawn a'u dilynodd am flynyddoedd lawer.
Yn raddol, o ganol y Tridegau ymlaen, denwyd mwy a mwy o Gymry i siroedd Jackson a Gallia gan adroddiadau yn y wasg ac addewidion o gyfleoedd newydd.
Rhwng 1835 ac 1850, amcangyfrifir bod tua 2,500 i 3,000 o wÅ·r, gwragedd a phlant wedi gadael Sir Aberteifi oherwydd tlodi ac ansefydlogrwydd, a sefydlu yn ne ddwyrain Ohio.
Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a thalaith Ohio yn parhau o hyd.
Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawdd sylweddol gan i sefydlu prosiect arbennig i ddathlu a chryfhau'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Cymru a thalaith Ohio.
Nod Project Cymru-Ohio yw digido a dehongli deunyddiau o blith casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol sy'n ymwneud â hanes y Cymry yn nhalaith Ohio a'u cyflwyno ar-lein i gynulleidfaoedd ym mhedwar ban byd.
Y Dr Menna Morgan yn dangos y wefan i'r noddwraig, Mrs Elizabeth F Davis, wrth ei hochr. Hefyd yn y llun: Dr R Brinley Jones, Yr Athro Hazel Walford Davies a Gwyn Jenkins
Mae yn arddangos tua 5,000 o ddelweddau o archifau a llawysgrifau, deunydd print, ffotograffau, mapiau a darluniau yn ogystal ag adrannau sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau'r Cymry a ymfudodd i'r dalaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bydd Project Cymru-Ohio yn rhedeg tan ddiwedd Mawrth 2009 a'n bwriad yw ehangu a chyfoethogi'r wefan bresennol trwy:
ychwanegu adysgrifau a chyfieithiadau o'r deunyddiau a ddigidwyd eisoes
datblygu'r adran addysg bresennol
digido rhagor o eitemau addas gan gynnwys deunyddiau mewn archifau a chasgliadau preifat yn America."