Gellir gwrando ar gannoedd os nad miloedd o Gymry "enwog ac anenwog" yn llefaru yn archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae yno, er enghraifft, ddetholiad o'r rhan fwyaf o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru dros y chwarter canrif ddiwethaf wedi eu diogelu.
"Ac unrhyw orsaf arall fydd wedi darlledu unrhyw beth o ddiddordeb Cymreig," meddai Iwan Jenkins o'r adran wrth Hywel Gwynfryn.
Ymhlith y beirdd a'r llenorion y diogelwyd eu lleisiau mae T H Parry-Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis y gellir ei glywed yn traddodi ei ddarlith Tynged yr Iaith a oedd yn un o ddigwyddiadau pwysicaf yr ymgyrch dros yr iaith Gymraeg yng Nghymru'r ugeinfed ganrif.
Mae'r tapiau gwerthfawr hyn yn galw am ofal arbennig iawn wrth gwrs:
"Mae'r tapiau sain yn cael eu cadw mewn ystafell gopr er mwyn eu gwarchod rhag tonfeydd magnetig a allai ymyrryd â'r cynnwys," meddai Iwan.
Fe'u diogelir hefyd rhag tymheredd a lleithder.
Mae ystafell arbennig yn y Llyfrgell lle gall unrhyw un wylio neu wrando ond gofynnodd Iwan am 24 awr o rybudd fel y gellir sicrhau fod y deunydd ar gael pan ydych yn cyrraedd.
Rhestr o'r holl glipiau sain
|