"Yr ydym yn dal i gasglu creiriau sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn i'r llyfgell agor," meddai Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol.
"Mae nifer o fylchau yn y casgliadau, heb os, ond ar ben hynny mae pethau'n dod i'r wyneb nad oedd neb yn gwybod amdanyn nhw o'r blaen ac y mae gan y Llyfgell ddiddordeb yn y rhain," meddai.
Dywedodd mai un o'i hoff greiriau ef yw llun sy'n crogi wrth y mur yn ei ystafell.
"Llun yw e gan Ron Lawrence o Bontypridd.
"Mae'n dangos gêm rygbi rhwng Caerdydd a Phontypridd ar Heol Sardis ac mae'n arbennig o dda. Mae'n llun sy'n crisialu bron Gymru gyfan, mae'n dangos y dref, yn dangos y mynyddoedd ac yn dangos ein gêm genedlaethol," meddai.
Rhestr o'r holl glipiau sain
|