|
|
|
Cerdd Canmlwyddiant Cerdd a gyfansoddwyd gan Gwyneth Lewis i ddathlu'r canmlwyddiant |
|
|
|
Canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cerdd gan Gwyneth Lewis a ddarllenwyd yn ystod diwrnod y dathlu gan Mari Rhian Owen
Ie, silffoedd o lyfrau, ond mae hon yn ardd
gyda hadau syniadau'n dianc fel chwyn
os nad yw ceidwad y llyfrau'n llym,
yn eu cloi'n eu celloedd, fel bo DNA
ein gwyddorau'n egino. Yna, fel gwenyn
bydd darllenwyr aflonydd yn cywain paill
o siambrau petalau ysgarlad fel serch.
Mae rhai delweddau'n blodeuo prin un
waith bob canrif. Dyma ryw
llyfryddiaeth. Dyma arch
ein breuddwydion. Dyma benglog Brân -
sgrin cyfrifiadur newydd sbon -
yn gwrando'n astud ar drydar pur
drudwy digidol trwy wifrau cân,
yn dathlu entrychion y foment hon.
|
|
|
|
|
|