Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanbedr Pont Steffan
Llun a dynnwyd pan roedd y sioe Mamma Mia'n dathlu 5 mlynedd (Tynnwyd yn Llundain yn 2004) Mama Mia - dyna sioe!
Ar ddiwrnod cyntaf mis Rhagfyr, 2007 dyma fws yr Urdd yn llawn ieuenctid yn anelu o ganolbarth Cymru am Fryste.

Gyda'r wipers y bws yn mynd ffwl pelt a phawb yn hanner cysgu, nid oedd eisiau poeni dim am y gwynt a'r glaw tu allan ar draffordd yr M4 am 7 y bore! Aros yng Nghanolfan Croes Cwrlwys, Caerdydd, i gael tamaid i fwyta ac awr frysiog o siopa Nadolig cyn anelu nôl at y bws!

Rhedeg trwy'r cesair yn ôl i'r bws gyda dwylo rhai yn llawn bagiau ac yn trio dal ymbarél! Bant â ni eto tua Bryste gyda phawb yn diferu ar ôl cael ein dal mewn cawod drom o gesair! Jiw, roedd pawb yn dechrau teimlo'n Nadoligaidd iawn!

Bant â'r bws ai sŵn cwyno am draed oer a gwalltiau gwlyb. Cyrraedd Theatr yr Hippodrome ym Mryste gyda'r cesair wedi tewi a phawb methu aros i glywed caneuon Abba yn eu holl ogoniant.

Dechreuodd y sioe gyda medli o'r caneuon, i'n cael ni yn y mŵd! Roedd nifer o'r gynulleidfa wedi gwisgo dillad y 70'au, 'sgidie platfform a fflêrs Lycra aur ac arian, ac yn cyd-ganu gyda'r perfformwyr! Roedd yr actorion yn llawn bywyd, y canu yn hwyliog a ninnau'n chwerthin a chlapio trwy gydol y sioe.

Y stori
Cawn ddilyn stori merch ifanc sydd ar fin priodi ar un o ynysoedd Groeg. Mae'n mynd ati i drio darganfod pa un o gyn gariadon ei mam yw ei thad, gan nad yw byth wedi ei gwrdd. Roedd caneuon fel "Dancing Queen" a "Does your mother know" yn creu cadwyn berffaith rhwng yr actio. Wedi'r finale a'r gymeradwyaeth wresog, dyma'r cast yn canu nifer o'r caneuon eto yn eu tro. Roedd y gynulleidfa gyfan ar eu traed yn dawnsio, clapio a chanu - roeddwn i yn eu canol ac yn mwynhau pob eiliad! Roedd y sioe yn llawn bywyd ac yn llawn lliw!

Gorfod oedd gadael y canu a'r dawnsio a mynd nôl ar y bws i fynd am adref drwy'r glaw trwm. Rhaid oedd cael saib i lanw boliau yn McArthur Glenn. Cafodd y weinyddes ei phrofiad cyntaf o gael y nifer fwyaf o bobl yn archebu pizza Hawaï ar yr un pryd - roedd eisiau swper ar y Cardis!!

Mama mia, dyna ddiwrnod! Er gwaetha'r cesair a'r dillad gwlyb, roedd hi'n ddiwrnod ffantastig. Diolch i'r Urdd am drefnu'r trip. Os nag oeddech chi yno, fe wnaethoch chi golli mas! Cofiwch fynd tro nesa' a welai chi 'na!

Siwan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Radio Cymru
Papurau Bro
Bws Â鶹Éç Cymru


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý