Ar ôl diwrnod caled, blinedig yn y gwaith pa well ffordd o dreulio'r noson na chael eich diddanu gan un o oreuon Cymru ym myd cerddoriaeth.
Ar 5 Hydref cynhaliwyd noson mewn ystafell fechan yng ngwesty'r Castell, Aberaeron, wedi ei drefnu gan 'Cered' fel rhan o'u rhaglen Cardicwstig.
Diddanwyr y noson oedd y Ddafad Gorniog a myfi, Siân Fêl, a Ryland Teifi wrth y llyw.
Arweiniwyd y noson gyda'r comedïwr Hywel Lloyd yn ychwanegu hiwmor i'r noson hwylus.
Cymharol fach oedd y dorf, yn amgylchynu'r byrddau llawn gwydrau a oedd yn gyflym wacau. I rywun fel fi sydd wedi arfer â gigs bywiog, roedd hi'n braf cael profi profiad ychydig yn wahanol. Nod y Ddafad Gorniog a minnau oedd sefydlu naws y noson gydag offerynnau megis gitâr, ffidl a recorder yn creu miwsig gwerin, ffwrdd a hi. Cafwyd croeso cynnes iawn gan y gynulleidfa i'n act ni.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae enw Ryland Teifi wedi datblygu'n un o enwau mwyaf cyffrous ym myd y cyfryngau, yn enwedig wedi iddo ennill cystadleuaeth 'Cân i Gymru' nôl yn 2005 gyda 'Lili'r Nos'. Canwr jazz /gwerin yw Ryland a ma' rhaid cyfaddef crëwyd dipyn o argraff ar bawb yn y gynulleidfa leol.
Roedd ei set yn cynnwys ystod eang o'i ganeuon ysbrydoledig oddi wrth ei albwm gyntaf 'Heno' a'i gryno ddisgiau cyfredol gyda chaneuon araf atmosfferig megis 'Si Hei' yn gwrthgyferbynnu â chaneuon egnïol fel ' Y Dydd yn Bygwth'. Am ryw reswm teimlais yn agos at y gerddoriaeth, gyda'r sain yn llanw'r ystafell fechan. Tra'n symud o un offeryn i'r llall, o'r gitâr, i'r banjo, o'r harmonica i'r piano heb os, crëwyd delweddau gyda'r geiriau.
Mae gan Ryland ffordd arbennig o'ch tynnu i mewn a chyn dim o amser rydych wedi'ch bachu. Wrth i'r cwrw lifo ac i'r noson fynd yn ei flaen clywid curiadau'r dwylo a'r traed yn cynyddu a chaledu. Rwy'n siŵr fod pawb wedi mwynhau dros ben y perfformiad hwn.
Ond un o nodweddion mwyaf amlwg a phwysicaf y noson oedd y teimlad cartrefol. Dywedodd Ryland Teifi ei hun, "Mae'n braf i gal ddod gartre, nôl i Aberaeron".
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Digwyddiadau lleol
|