Ffair Aeaf 2007 Y Ffair Aeaf yw un o'r prif ddigwyddiadau ar gyfer aelodau CFfI Cymru dros y gaeaf, ac i nifer ohonynt mae atyniad y Ffair mor gryf ag atyniad y Sioe Fawr.
Cliciwch i weld lluniau o Ffair Aeaf 2007
Cynhaliwyd Ffair 2007 ar ddydd Llun a dydd Mawrth, Tachwedd 26 a 27.
Roedd rhestr faith o gystadlaethau ar gyfer yr aelodau, pob un ohonynt yn weithgareddau sy'n helpu datblygu a phrofi sgiliau allweddol yr aelodau.
Roedd y cystadlaethau yn cynnwys barnu bîff a ŵyn gigyddion, gyrru beic 4 olwyn, barnu carcas, Cystadleuaeth Magu Llo CFfI Cymru a Phrif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI Cymru.
Fel yr arfer, cafodd yr aelodau yn y gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Å´yn Dunbia a'r Cystadleuaeth Magu Llo NatWest y cyfle i werthu eu stoc yn yr arwerthiant a gynhaliwyd yn y ffair. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae prisiau stoc aelodau CFfI Cymru wedi cyrraedd ymhell dros brisiau'r farchnad - prawf eto o sgiliau bridio a magu aelodau'r mudiad.
Cliciwch i weld lluniau o Ffair Aeaf 2007
Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifainc 2007 yng Nghorwen