Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Rhai o griw yr ysgol yn yr Almaen O Aber i'r Almaen
Un bws, saith diwrnod a dwy gyngerdd ... Carys Mair Davies sy'n sôn am drip Cerdd Ysgol Gyfun Penweddig i'r Almaen a'r profiadau llon a lleddf a brofwyd gan y disgyblion.

Ar yr unfed ar hugain o Hydref 2006, pan oedd y mwyafrif llethol yn cysgu'n braf yn eu gwelyau, 'roedd oddeutu 60 o ddisgyblion Ysgol Penweddig yn eistedd ar fws am 6:30am yn gyffro i gyd!! Yn wir y bore dydd Sadwrn hynny roeddynt yn canu'n iach i Aberystwyth ac yn paratoi ar gyfer eu taith hir ddisgwyliedig i'r Almaen.

Ymysg yr holl ddisgyblion 'roedd cantorion, offerynwyr, unawdwyr cerddorol, aelodau o'r band pres ac aelodau o'r gerddorfa llinynnol. Roeddynt i gyd yn mynd am wythnos i'r Almaen i berfformio - heb anghofio'r mwynhau!

Treuliwyd y dydd Sadwrn i gyd yn teithio ac uchafbwynt y diwrnod i rai oedd cael teithio ar y llong a oedd yn mynd â ni o Dover i Ffrainc. Aeth llawer ar fwrdd y llong wrth ffarwelio â Phrydain er mwyn gweld creigiau gwyn Dover yn y gwyll yn prysur bellhau. 'Roedd y creigiau gwyn urddasol yn olygfa banoramig drwy'r niwl.

Ar ddydd Sul fe deithiom o Calais yn Ffrainc i'r Almaen lle roeddem am dreulio'r noson yn Frankfurt. 'Roedd cyngerdd gennym i'w chynnal yn Kronburg y noson honno. 'Roedd y cyngerdd o safon uchel iawn ac 'roedd y gynulleidfa yn ymateb yn dda. Fe fwynheuodd pawb berfformio ond rhaid cyfaddef taw pleser pur oedd cael suddo yn ôl i felystra'r gwely ar ôl yr holl deithio a wnaethpwyd dros y ddau ddiwrnod diwethaf!

Dydd Llun oedd hoff ddiwrnod y mwyafrif gan i ni adael Frankfurt yn syth ar ôl brecwast am Bad Hombourg er mwyn treulio'r dydd yno. Fe dreuliodd y nifer helaeth o ddisgyblion y bore ac ychydig o'r prynhawn mewn spa anferth, hyfryd. Yno 'roedd pob moethusrwydd (yn ymwneud â dŵr) o dan haul - "jaccuzzis" ; "saunas" ; ystafelloedd stêm ; pyllau nofio o dan do a thu allan ; "lazy river" ; cawodydd o dan do a thu allan ; gwelyau haul o dan y dŵr (!!) a llawer iawn mwy.

Ar ôl cael amser pleserus yn y spa cawsom fynd i siopa - a oedd wrth fodd y merched yn enwedig!! 'Roedd Bad Hombourg yn le bendigedig ac fe wnaeth rai o'r bechgyn ddechrau chwarae pêl-droed ar y sgwâr! Ond nid diwrnod hollol ymlaciedig oedd y dydd Llun ychwaith gan fod cyngerdd arall i'w berfformio gyda'r nos yng nghastell Bad Hombourg a oedd wedi'i adnewyddu yn eglwys fawr, grand. Fe fwynheuodd y gynulleidfa yn fawr iawn - ac ategwyd hynny gan eu bonllefau o werthfawrogiad ar ddiwedd ein hail gyngerdd.

Fe ddychwelon i'r bws eto ddydd Mawrth er mwyn teithio i Heidelberg. Taith bleserus oedd y daith yma gan ein bod yn dilyn yr afon Rhein tuag at pen y daith. 'Roedd golygfeydd hyfryd yn yr ardal yma - clytwaith o gaeau, brocoli o goed, ac wrth gwrs llwydni sidanaidd yr afon Rhein. Ar ôl cyrraedd Heidelberg cawsom ychydig oriau i grwydro o amgylch y dref fel y mynnent cyn symud ymlaen i'r llety ar gyfer y noson.

Ddydd Mercher fe ddychwelom i Heidelberg yn y bore er mwyn ymweld â'r castell. 'Roedd pawb yn wên o glust i glust cyn sylweddoli fod 315 gris i'w dringo cyn cyrraedd y castell ei hun! Felly dyma pawb yn mynd ati i ddringo a dringo a dringo. Wedi cyrraedd y copa fe aeth y disgyblion i grwydro o amgylch tir y castell gan ryfeddu at yr awyrgylch o berffeithrwydd hynafol a oedd yn perthyn i'r lle. Yna wedi cael oddeutu dwy awr i ymweld â'r castell fe ddychwelom i'r bws er mwyn teithio i Regensburg - 'roedd hi'n llai o drafferth cerdded oddi wrth y castell nag y bu hi i gerdded tuag ato!

Er mwyn cyrraedd Regensburg fe groesom yr afon Rhein ar long - ac mi 'roedd hynny'n brofiad ynddo'i hun. Wedi cyrraedd Regensberg (a'r llety ble roeddem am orffwys y noson honno) 'roedd adloniant wedi'i drefnu i ni gan yr athrawon a oedd yn ein goruchwylio a'n tywys ar y daith cyn noswylio'n gynnar. 'Roedd hynny'n fendith gan i ni gael nosweithiau hwyr tan hyn.

'Roedd dydd Iau yn ddydd â ysgwydodd nifer o ddisgyblion gan i ni deithio i Weimar i ymweld â Charchar Rhyfel Buchenwald. 'Roedd cerdded o amgylch adfeilion y Carchar yn brofiad dirdynnol. Cerdda distawrwydd llethol tew o amgylch y lle - nid oedd hyd yn oed adar yn trydar yn y wybren.

Gwelsom y ffwrnesi tân lle gafodd y carcharorion eu llosgi ; y seler lle cawsant eu crogi ; yr amlosgfa ; sawl wrn i gario llwch y meirw. 'Roedd nifer o dorchau wedi'u gosod yma a thraw er mwyn coffau'r dioddefwyr a fu yn cael eu arteithio yma. Gwelsom ffilm cyn crwydro o amgylch a oedd yn rhoi cefndir Buchenwald i ni ac yn ceisio rhoi darlun i ni o'r boen a'r creulondeb oedd yn digwydd yno.

'Roedd fy nghalon yn fy ngwddf wrth i mi sylweddoli fy mod yn sefyll yn union lle 'roedd arweinwyr mwyaf blaenllaw'r Ail Ryfel Byd wedi sefyll, megis Adolf Hitler.

'Roedd ymweld â Charchar Rhyfel Buchenwald yn brofiad brawychus ac nid oes geiriau'n gallu disgrifio erchylltra'r awyrgylch fyglyd oedd yno. Er gwaethaf hyn, roeddwn yn falch i mi fod yno - fel y disgyblion eraill dw i'n siŵr - ond nid wyf am fynd i Garchar Rhyfel arall eto.

Ar ôl bod yn Buchenwald fe aethom i ganol Weimar lle cawsom oddeutu dwy awr er mwyn siopa ac amsugno'r awyrgylch drydanol yno. Dyma'r diwrnod mwyaf lluddedus yn fy marn i, ac 'roedd pawb yn falch o weld gwely'r noson honno.

Ymroddwyd y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn i deithio'n ôl i Aberystwyth yn ddiogel. 'Roedd hi'n siwrnai hir ac 'roedd pawb yn dyheu am weld wynebau cyfarwydd eu teuluoedd erbyn y diwedd - er na fuasent byth yn cyfaddef hynny!

Fe fwynheuodd pawb yr wythnos yn yr Almaen yn enfawr. 'Roedd hi'n gyfle i wneud cysylltiadau â ffrindiau newydd. Fe godwyd chwant ar nifer o ddisgyblion i ddychwelyd i'r Almaen unwaith yn rhagor er mwyn cael treulio mwy o amser yno - yn enwedig y disgyblion hynny sydd wedi dewis astudio Almaeneg fel pwnc TGAU a Lefel A.

Dwi'n siŵr fy mod yn lleisio barn y disgyblion oll pan ddywedaf i mi gael amser bendigedig ynghanol y sbort a'r sbri a oedd ynghlwm â'r daith ac ni fyddaf yn anghofio'r daith hon am weddill fy oes.

Carys Mair Davies

  • Mwy am Aberystwyth yma.

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý