Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Chwiorydd hyll - llun o raglen CBeebies Panto Penweddig
Hynt a helynt disgyblion Ysgol Gyfun Penweddig wrth iddyn nhw baratoi i berfformio eu pantomeim Nadolig blynyddol yn Rhagfyr 2006.
Eleni, buais i'n un o dîm rheoli pantomeim Nadolig Ysgol Gyfun Penweddig, ac heb os nac onibai - 'roedd hi'n fraint!!!

Perfformiwyd stori ddifyr iawn gan rai o ddisgyblion o flynyddoedd saith, wyth a naw i weddill eu cyd-ddisgyblion a'u ffrindiau ar brynhawn ddydd Mercher, Rhagfyr 20, 2006.

'Roedd llawer iawn o waith i'w wneud mewn ychydig amser ac felly fe gynhaliwyd cyfarfodydd i'r tîm rheoli bob amser cinio dros gyfnod o amser er mwyn llunio plot diddorol, sgript addas a chymeriadau bythgofiadwy. 'Roedd hynny'n hwyl yn ei hunan gan i lawer o syniadau dwl a dwlach gael eu taflu o bob ffordd fel 'roedd y tîm yn closio at ei gilydd.

Ar ôl cwblhau'r sgript 'roedd hi'n bryd castio'r cymeriadau. Cynhaliwyd cyfarfod i unrhyw un o flwyddyn saith i flwyddyn naw i geisio am y prif rannau ynghyd â'r rhannau llai amlwg. Daeth degau o ddisgyblion brwdfrydig ac eiddgar i'r cyfarfod. Dewisiwyd a detholwyd y cymeriadau drwy gynnal gwahanol ymarferion er mwyn i'r criw rheoli fedru gweld cryfderau a gwendidau pob disgybl.

Yna, aethpwyd ati i roi'r sgript ar lwyfan! Cymeriadau enwog allan o gartŵns oedd yn y ddrama ac 'roedd hyn yn ei gwneud yn stori fwy doniol fyth.

Sgript y Panto
'Roedd y stori'n dilyn taith Shrek, Fiona, Donci a gwiwer i ailfeddiannu cneuen hollbwysig - y gneuen oedd Meseia'r Byd (yn debyg i'r baban Iesu). Collwyd y gneuen pan gwympodd y wiwer a oedd fod i'w gwarchod i gysgu ac fe ddygodd Bad Barry hi. Pan ddarganfyddodd Shrek, Fiona, Donci a'r wiwer fod y gneuen ar goll fe ddechreuwyd ar y daith hir o chwilio amdani.

Ar y ffordd fe gyfarfwyd â'r chwiorydd hyll, Robin Hood a'i ddynion, y Pitws, criw YMCA, criw Amarillo, Siôn Corn a'r corrachod - ac fe ymunodd pawb yn y daith i chwilio'r gneuen. Unwaith iddynt gyrraedd Lapland a doedd hyd yn oed Siôn Corn ddim yn gwybod dim am hanes y gneuen, dechreuwyd colli gobaith. Ond fel pob stori dda arall, yr arwyr a enillodd y diwrnod gan ddarganfod y gneuen a symbylodd ddiweddglo hapus. Darganfyddwyd guddfan Bad Barry, ac yn bwysicach, darganfuwyd y gneuen.

Yn fy marn i, 'roedd plot y panto yn un a oedd yn ennyn tosturi, cymeradwyo, chwerthin a bloeddio o'r gynulleidfa. Gan fod y gwylwyr yn adnabod y cymeriadau o gartŵns megis Eira Wen, Shrek a Robin Hood, 'roeddent yn gallu uniaethu'n fwy â'r cymeriadau na petaent wedi bod yn gymeriadau unigryw, ddychmygol.

Ffactor arall bwysig oedd y gwisgoedd amryliw o bob lliw a llun a oedd am yr actorion. Cafwyd Donci a gwiwer credadwy dros ben yn eu gwisgoedd o ffwr yn yr un modd y cafwyd Siôn Corn effeithiol â'i farf wen hir wedi'i staenio â'i fantell coch. 'Roedd y chwiorydd hyll mor hyll ag erioed yn eu colur a oedd dros ben llestri a'u "boob tubes" a'u "mini skirts" disglair!!! Credaf i'r gwisgoedd wneud y pantomeim yn gyflawn. Hebddynt buasai'r perfformio heb fod cystal oherwydd ni fuasai'r disgyblion wedi gallu portreadu'r cymeriadau mor dda.

Cafodd y pantomeim gryn dipyn o sylw. Mewn un ymarfer daeth cynrychiolwraig ar ran Radio Ceredigion i recordio rhai golygfeydd a chaneuon, ac i siarad â rhai o'r tîm rheoli a'r cymeriadau. Dwi'n meddwl i hynny roi'r hwb ychwanegol i'r actorion er mwyn perfformio fel y gwnaethont ar y diwrnod tyngedfennol.

Roeddwn ar ben fy nigon o gael helpu clymu'r holl linynnau a oedd yn mynd i greu panto arbennig iawn at ei gilydd. Oedd, 'roedd yn rhaid ymarfer yn galed, a do, 'roedd hi'n straen ar y cychwyn o gael pawb at ei gilydd i ymarfer. Ond - â'm llaw ar fy nghalon - ni fuaswn yn newid unrhywbeth a ddigwyddodd yn ei chylch. Aeth y perfformiad yn dda ac heb os nac onibai fe gafodd y gynulleidfa wledd nid oedd mo'i cholli. 'Roedd hi'n banto bythgofiadwy a dweud y lleiaf!

Gan: Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý