Mi es i weld y panto gyda chriw Eglwys Llanbadarn Fawr ar nos Wener, 18 o Ionawr. Richard Cheshire oedd wedi cyfarwyddo'r cynhyrchiad, yn ogystal â chwarae'r brif ran yn y panto - sef Mother Goose ei hunan.
Nid oeddwn yn gyfarwydd â'r stori cyn mynd i'w weld - ond trwy ddeialog a chân, 'roedd y plot yn hollol syml i'w ddilyn. Teulu'r Gander yw canolbwynt y stori, ac mae'r gynulleidfa yn eu dilyn wrth iddynt geisio ymdopi gyda chodiadau cynyddol ym mhrisiau morgais Lloegr. Bydd y gynulleidfa'n siŵr o wirioni ar Priscilla yr ŵydd wrth iddi 'dap-tapio' ei ffordd i achub y Ganders.
'Roedd y panto yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd gan gynnwys Richard Cheshire, Ioan Guile, David Kendell, David Blumfield, Theresa Jones a Julie McNicholls, ynghyd â llu o bobl ifanc brwdfrydig oedd yn dawnsio a chanu.
Fy hoff olygfa oedd yr un peintio a phapuro - fel pob blwyddyn arall!! Ond mae cael golygfa beintio yn angenrheidiol yn y pantomeim gan ei fod erbyn hyn yn rywfaith o draddodiad. Cafwyd llawer o chwerthin gan y gynulleidfa pan wnaeth Richard Cheshire syrthio'n glewt ar y llawr (fel y blynyddoedd blaenorol!!) a phan syrthiodd ei wig i ffwrdd (fel y blynyddoedd blaenorol hefyd!)
Wrth siarad gydag ychydig o'r gynulleidfa ar ddiwedd y pantomeim a gofyn eu barn, dywedodd un "nid oeddwn yn teimlo bod y pantomeim gystal ag arfer oherwydd nid oedd gymaint o stori i "Mother Goose" ag oedd i rai eraill, megis "Jack and the Beanstalk". Dywedodd rhywun arall "roeddwn yn credu bod Richard Cheshire a Ioan Guile wedi actio'n wych - dyma sêr 'Mother Goose'".
Er i mi fwynhau fy hun, nid oeddwn yn teimlo fod y panto eleni wedi llawn gyrraedd ei photensial. Yn bersonol, nid wyf yn credu y gall "Mother Goose" gystadlu â'r pantomeimau blaenorol, er enghraifft "Puss in Boots" a "Dick Whittington". Ond efallai fod hyn yn ymwneud â'r ffaith fy mod yn hŷn eleni. Roeddwn yn teimlo bod diwedd y panto yn llusgo'i draed braidd - yn enwedig yr olygfa yn llys y gwyddau yng ngwlad y gwyddau.
Ond er nad oedd y stori gystal â'r arfer, roedd yr actio mor ddoniol ag erioed!!
Gan Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|