Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn neuadd yr ysgol eleni. Braf oedd gweld y moroedd o goch, gwyrdd a melyn yn hytrach na lliwiau'r gwisg ysgol arferol. 'Roedd y lliwiau yn dynodi'r llysoedd - coch ar gyfer llys Bleddyn, gwyrdd ar gyfer llys Hywel, a melyn ar gyfer llys Llywelyn.
'Roedd diwrnod yr Eisteddfod yn nwylo disgyblion y chweched isaf yn gyfan gwbwl. Nid oedd yr un athro yn cymryd cyfrifoldeb o addurno'r neuadd na pharatoi eitemau'r dydd. 'Roedd gan bob llys gapten ac is-gapten. Y capteniaid fuasai yng ngofal holl eitemau'r Eisteddfod, ac felly â chyfrifoldeb mawr.
Capteniaid llys Bleddyn oedd Rhodri Taylor a Sara Sweeny. Capteniaid llys Hywel oedd Cynan Llwyd a Malltwen Freeman. Capteniaid llys Llywelyn oedd Nia Miriam ac Eurig Davies.
Dechreuodd yr Eisteddfod am 9:00y bore gydag un o'r cystadlaethau mwyaf, sef côrau'r llysoedd. Yma, 'roedd pob un yn cael y cyfle i fynd ar y llwyfan er mwyn canu gyda'u llys yn erbyn y llysoedd eraill. Cystadleuaeth côrau'r llysoedd oedd y gystadleuaeth a fu'r mwyaf o baratoi ar ei chyfer.
Capteiniaid pob llys oedd yr arweinyddion.
Dwi'n siŵr i'r beirniaid gael amser caled yn beirniadu, oherwydd ni welwyd gôrau tebyg ar lwyfan erioed o'r blaen!!! Ond wedi brwydro'n galed am y wobr - Bleddyn ddaeth yn gyntaf, Hywel yn ail, a Llywelyn yn drydydd.
Yna, mi ddaeth hi'n amser y cystadleuthau seremonïol, sef seremoni'r Tlws Saesneg ar gyfer y stori Saesneg orau; Tlws y Cerddor ar gyfer y portffolio cyfansoddi gorau; Gwobr Goffa Trystan Maelgwyn ar gyfer y stori Gymraeg orau o flynyddoedd 10 ac 11; y Goron ar gyfer y stori Gymraeg orau o flynyddoedd 12 a 13; a phrif seremoni'r Eisteddfod, sef y Gadair ar gyfer y cywydd gorau.
Enillodd James Hancock-Evans o flwyddyn 11 y tlws Saesneg; Catrin Woodruff o flwyddyn 12 gipiodd tlws y Cerddor; cyflwynwyd gwobr goffa Trystan Maelgwyn i Gwen Simms-Williams o flwyddyn 11; Trystan Davies o flwyddyn 13 a gafodd y Goron; ac enillodd Carys Mair Davies o flwyddyn 11 y Gadair.
Ar ôl cynnwrf seremonïau'r dydd, cynhaliwyd cystadlaethau'r unawdau lleisiol, y dawnsio disgo, yr unawdau offerynnol, yr adrodd ac yn y blaen.
Adleisiodd yr holl gystadlaethau yma cynifer y talentau sydd ymysg disgyblion Penweddig dros amryw o feysydd, boed yn lenyddol neu'n actio.
Pan ddaeth hi'n bryd cyhoeddi'r llys buddugol gellid fod wedi clywed nodwydd yn cwympo yn y neuadd. Yn wir, 'roedd y tawelwch yn fyddarol. Ond nid oedd modd osgoi'r canlyniad ymhellach ac aeth capten ac is-gapten llys Hywel i'r llwyfan i dderbyn y wobr am y llys buddugol. 'Roedd disgyblion llys Hywel wrth eu boddau â'r canlyniad, ond nid oedd disgyblion llys Bleddyn, a ddaeth yn ail, na disgyblion llys Llywelyn, a ddaeth yn drydydd, yn torri'u calonnau gan i'r canlyniadau fod o fewn trwch y blewyn meinaf i'w gilydd.
Cafodd pob copa walltog a fuodd yn Eisteddfod Penweddig amser fythgofiadwy a dw i'n siŵr y siaradaf dros bawb pan ddywedaf fy mod yn methu aros tan Eisteddfod Ysgol Penweddig 2008!!
Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.