Mae'r disgyblion o dan sylw yn gweithio fel swyddogion i hybu Cymreictod yn yr ysgol.
Ar y dydd Llun, cafwyd pleidlais ymysg pob blwyddyn ysgol i enwi hync a phishyn y flwyddyn! 'Roedd y bechgyn yn pleidleisio am bishyn eu blynyddoedd, gan adael i'r merched bleidleisio am yr hync! Roedd yn hwyl mawr gan ddod â rhai cyfrinachau i weld olau dydd!!
Ar y dydd Mawrth, cyhoeddwyd pwy oedd pob hync a phob pishyn dros uchelseinydd yr ysgol. Gwnaeth hyn greu awyrgylch o gyffro ymysg y disgyblion am weddill y dydd!
Ar y dydd Mercher, cynhaliwyd arwerthiant bechgyn a merched yn y neuadd amser cinio. Roedd gwirfoddolwyr ymysg bechgyn a merched blynyddoedd saith i ddeuddeg yn cael eu 'gwerthu' i'r disgyblion oedd yn fodlon talu'r pris uchaf amdanynt. Gorfu i'r pâr o ddisgyblion ddawnsio â'i gilydd am ran o'r disgo y noson honno. Cododd hyn llawer o arian - gwerthwyd y disgybl am y pris uchaf o £4.00!!
Amser cinio hefyd, 'roedd cerddoriaeth gariadus yn cael ei chwarae dros yr uchelseinydd yn yr ysgol. Profodd hyn yn boblogaidd iawn ymysg disgyblion yr ysgol, gyda chaneuon adnabyddus megis "Puppy Love", "Love is in the air" a "Pishyn Pishyn" yn cael eu chwarae.
Ar y dydd Iau - Diwrnod Santes Dwynwen ei hun, cafodd yr ysgol ddiwrnod 'Dillad ein Hunain' yn hytrach na'r wisg ysgol arferol. Ar y nos Iau, trefnodd ddisgyblion y chweched dosbarth ddisgo Dwynwen yn yr ysgol. Addurnwyd y neuadd gyda chalonnau a llwyau caru - a beth oedd y gerddoriaeth?!! Cerddoriaeth yn ymwneud â charu a chariad wrth gwrs!!
Cafwyd pinacl digwyddiadau Dwynwen ar y dydd Gwener - cynhaliwyd priodas ffug rhwng hync a phishyn pob blwyddyn yn y neuadd amser cinio, "syniad gwych!" meddai'r mwyafrif.
Drwy'r wythnos, 'roedd cyfle i ddisgyblion bostio cardiau Santes Dwynwen at ei gilydd drwy flwch postio arbennig oedd wedi'i osod wrth fynedfa'r ysgol. Aeth postmyn o amgylch ar ddiwedd yr wythnos yn dosbarthu'r cardiau i'r rhai lwcus!!
Profodd yr wythnos o ddigwyddiadau Dwynwen yn boblogaidd iawn yn yr ysgol. Dwi'n siŵr felly, bydd y gweithgareddau hyn yn digwydd yn flynyddol o hyn ymlaen!
Gan Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|