Cynhaliwyd cyngerdd safonol dros ben yng Nhanolfan Celfyddydau Aberystwyth gan gerddorfa ieuenctid Ceredigion, c么r bechgyn ieuenctid Ceredigion a ch么r cymysg ieuenctid Ceredigion.
Arweinydd y ddau g么r oedd Mr Emyr Wynne Jones, ac arweinydd y gerddorfa oedd Mr Brian Sansbury.
Roeddwn i yn cymryd rhan yn y gerddorfa ar y fiola. Chwaraesom "The New World Symphony" gan Dvorjak - cerddoriaeth heriol iawn i'w chwarae'n dda mae'n rhaid cyfaddef! Ond ar 么l penwythnos hir o ymarfer caled yn Llangrannog a chymorth gan nifer o staff peripatetig y Sir a myfyrwyr, 'roedd y darn yn llwyddiant ysgubol. Parodd y symffoni 50 munud - a oedd yn cynnwys pedwar symudiad gwrthgyferbyniol.
Bu'r c么rau hefyd fel lladd nadroedd yn ymarfer. Bu'r plant a oedd yn y c么r
cymysg yn ymarfer am oriau dros gyfnod o ddau ddiwrnod; tra bu'r c么r
bechgyn ychydig yn fwy ffodus yn ymarfer am ddiwrnod yn unig!!
Ond er gwaethaf y gwahaniaeth yn yr amseroedd ymarfer - yr un oedd y safon drwy'r gyngerdd i gyd, a hynny bron 芒 chyffwrdd 芒'r nenfwd!
Wedi i'r ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly,
ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 18, 2006 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y
prynhawn yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd ac
uwchradd y Sir. Yna, estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a
theulu, i'r ci a'r gath!
Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y
campweithiau canu ac offerynnol.
Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd rhan yn y gyngerdd
wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan.
'Roedd cyngerdd c么rau a cherddorfa'r Sir eleni - fel pob blwyddyn arall a fu
ac fel pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n si诺r, yn llwyddiant ysgubol ac
adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau prin yng
Ngheredigion.
Gan: Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|