Ar Dachwedd 13, 2006, fe gefais i'r fraint o gael teithio i
Lanelli gyda Megan Jones o Antur Teifi, er mwyn cael ein cyfweld yn fyw ar raglen teledu Wedi 3 ar S4C digidol.
'Roedd y cynhyrchwyr am i ni fod ar y rhaglen i siarad am
gynllun Antur Teifi i annog pobl ifanc i ysgrifennu a chefnogi'u papurau
bro. Yn adeilad Tinopolis, Llanelli yr oedd y stiwdio ac 'roedd yr
awyrgylch yno yn un drydanol ar y naw.
Wedi cyrraedd yr adeilad anferth cawsom ein tywys i'r ffreutur er mwyn cwrdd â'r golurwraig. Mae rhoi colur ymlaen o flaen drych lychlyd yn yr ystafell ymolchi yn hollol wahanol i gael eich mwytho gan golurwraig broffesiynol o flaen drych enfawr mewn stiwdio deledu. 'Roedd hi'n werth teithio yr holl ffordd i Lanelli jest er mwyn y profiad hynny!!
Yna, 'roedd yn rhaid i ni aros ein tro i fynd ar y set gan fod y cyfweliad
yn fyw - fel nad oedd eliffantod yn gwneud gymnasteg yn ein boliau yn barod! Tra'n aros fe gawsom y cyfle i weld a siarad gydag Aled Hall a Lowri
Steffan - wynebau cyfarwydd iawn ar raglenni teledu Cymraeg.
'Roedd yna wefr fawr i'w chael pan cawsom ein galw i fynd lawr i'r set ei
hun. Fe glymwyd microffônau bach o'n hamgylch ac i ffwrdd â ni i ymuno â'r cyflwynwyr Elinor Jones a John Hardy ar seddau cyfforddus set Wedi 3. Er fy mod
braidd yn nerfus wrth aros am y cyfweliad tyngfennol, fe hwyliais drwy'r
cyfan a chyn pen dim 'roedd Elinor a John yn diolch i Megan a minnau am ddod i siarad ar y rhaglen.
Wel, - dyna chi sioc!! Mae'n rhaid taw dyna chwe munud cyflymaf fy mywyd!! Ni wyddais lle oedd yr amser wedi mynd, ond fel y
dywed yr hen ddywediad Saesneg - "Mae bywyd yn hedfan tra'n cael hwyl".
Cefais fy nghyfareddu gan oleuadau llachar y stiwdio a bod o flaen y
camerâu. Wrth i mi ail fyw'r profiad mae'n swnio'n afreal.
Mi wnaeth y diwrnod agor fy llygaid i'r holl waith da y mae Antur Teifi yn
ei gyflawni, megis bwydo'r papurau bro ag erthyglau di-ri. Nid yn unig eu
bod yn cynnig cyfle i ysgrifennwyr ifanc ennill ychydig o hysbys ac arian
poced, ond maent yn cynorthwyo'r holl bapurau bro sydd, a phob tegwch, angen gwaed newydd a storiau diddorol, deniadol.
Ni sylweddolais cyn hyn bod cymaint o wahanol adrannau gan y cwmni ychwaith ac mae'r holl waith caled y maent yn ei wneud dros y cymunedau lleol yn fy ngwneud i eisiau torchi fy llewys a'u helpu'n fwy!
Fe agorodd y profiad ddrysau caedig persnol i mi hefyd. Fe greodd y set
deledu argraff fawr arnaf ac mae diddordeb yn y cyfryngau bellach wedi magu ffrwyth ynof. Buaswn yn hoffi dilyn y trywydd hwn ymhellach (o flaen y camera yn hytrach na thu ôl y camera yn ddymunol!!) ac mae'r dyfodol nawr yn fwy clir i mi. Heb yr hwb a gefais gan Antur Teifi ni fuaswn â gôl i anelu tuag ati.
'Roedd y profiad yn hollol unigryw ac ni allaf bwysleisio'n ddigonol fy
niolch i Antur Teifi am ddarparu'r fath gyfle i mi. Gallaf eich
sicrhau na fyddaf yn anghofio fy chwe munud o enwogrwydd tra bydd anadl dan fy mron! Diolch Antur Teifi!
Gan Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.