Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Eleri Sion
Eleri Sion

Ganwyd: 1976

Magwyd: Neuadd Lwyd yn Nyffryn Aeron

Addysg: Ysgol Uwchradd Aberaeron


Cyflwynwraig Radio a Theledu

Ganwyd Eleri Sion yn nhalgylch Aberaeron ac fe'i haddysgwyd yn yr Ysgol Uwchradd leol.

Dechreuodd gyrfa lwyddiannus Eleri ym myd teledu fel cantores ac ar raglenni plant. Fe gymerodd hi ddwy flynedd o hoe yn ystod y cyfnod astudio ar gyfer ei gradd yng Nghymraeg ym mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno rhaglen Chwaraeon i blant o'r enw Cracabant.

Yna ym 1995 fe ymunodd â chriw Chwaraeon Â鶹Éç Radio Cymru er mwyn gohebu ar gemau rygbi (y ferch gyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg yn ôl y sôn). Hyn ar ôl hongian ei sgidiau rygbi yn dilyn anafiadau tra'n chware'r gêm dros glwb rygbi Llanbedr Pont Steffan a phrifysgol Caerdydd lle fuodd hi'n gapten am flwyddyn.

Ar ôl gadael y brifysgol fe aeth hi ymlaen i weithio fel is Gynhyrchydd gyda chwmni teledu Apollo gan weithio ar raglenni fel Noc Noc, Cân i Gymru a Dudley, ond fe ail ddychwelodd y chwant o weithio ym myd chwaraeon ac ym 1997 fe ymunodd â thîm Y Clwb Rygbi fel is- gynhyrchydd a chyflwynydd. Yn ystod y cyfnod hynny fe gyflwynodd Cyfres Saith bob Ochr Rygbi y Byd, Gemau'r Gwyddel, Pencampwriaeth pêl-rwyd y byd, Pencampwriaeth roller-hockey y byd - hyn cyn cael y cyfle i gyd-gyflwyno Camp Lawn gyda Dylan Ebeneser ar Â鶹Éç Radio Cymru.

Erbyn hyn, hi yw un o'r gohebwyr chwaraeon ar raglen Newyddion foreol Â鶹Éç Radio Cymru, Post Cyntaf.

Yn ogystal mae'n gweithio'n achlysurol gyda chwmni teledu Sky fel is gynhyrchydd/gohebydd ar bencampwriaethau dartiau a 'pool' y byd.

Eleri sy'n cyflwyno'r rhaglen dalent Wawffactor ar S4C, ac mae'i phersonoliaeth hawddgar a hiwmor wedi'i gwneud yn arweinydd poblogaidd ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd ac fel cyflwynwraig ar raglen uchafbwyntiau S4C. Mae hefyd wedi cyd-gyflwyno cyfresi Y Briodas Fawr gyda Rhodri Owen ar S4C.

Yn fwy diweddar mae Eleri wedi ennill ffrwd newydd o gefnogwyr yn sgil serennu ar raglen boblogaidd un o gyn gapteiniaid tîm rygbi Cymru, Jonathan. Mae'r sioe hwnnw yn gyfuniad o sylwebaeth ar ddatblygiadau ym myd rygbi a llawer o hiwmor gyda Rowland Phillips a Nigel Owens. Eleri Siôn yw'r angor rhwng y ddau ddigrifwr!

Mi fydd Eleri yn chwarae rhan allweddol eleni yn nathliadau deucanmlwyddiant Aberaeron wrth iddi hi a Huw Edwards arwain y dathliadau pen-blwydd ar ffurf noson fawreddog o adloniant ar gae-sgwar y dref.

  • Mwy am Aberaeron a dathliadau'r deucanmlwyddiant

  • Cyfrannwch

    Ceris Jones o Ddihewyd
    Rwy'n perthyn i Eleri Sion ond dydy hi ddim yn fy adnabod. Dwi wedi cael llawer o wybodaeth o'r dudalen yma!!
    Thu Mar 12 19:20:39 2009

    Annette Strauch, Machynlleth & Yr Almaen
    'Rwy'n gweld Eleri Sion ar y teledu yn aml. Diolch yn fawr am fwy o wybodaeth.
    Fri Feb 6 22:02:04 2009


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý