Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sbwriel Sbwriel Dyffryn Teifi
Huw Rowcliffe o Bencader yn pryderu am yr holl sbwriel ar hyd strydoedd Dyffryn Teifi.
Wrth ddod ar fy mws ysgol adref heddiw, ac edrych ar gefn gwlad brydferth Ceredigion a Shir Gâr, ardaloedd yng nghanol Cymru fe sylwais ar un peth annymunol sydd yn digwydd i'r amgylchedd; roedd sbwriel ym mhob man ar ochr y palmant ac ar hyd yr heol fawr.

Sylwais ar bacedi gwag o greision a fferins wedi cael eu taflu yn hollol ddi fater dros y lle, hyn yn gwneud ein cefn gwlad i edrych yn anniben, ac yn amharu ar yr hyfrydwch a'r golygfeydd hudol sy'n gallu ein syfrdanu. Roedd llawer o'r sbwriel yma ar hyd y ffordd fawr felly wedi eu taflu allan o geir.

Y cwestiwn ofynnais i fi fy hun oedd "pam na fedrai'r bobl yma fynd â'u sbwriel adref gyda nhw?" Meddyliais yn galed am ddulliau fedrwn ni fel cymunedau cefn gwlad Cymru eu defnyddio i leihau'r ffordd mae sbwriel yn cael eu taflu mor ddifater ac astudio a chanolbwyntio ar greu amgylchedd lận a chadw prydferthwch a naturioldeb cefn gwlad Ceredigion a Shir Gâr.

Pan gyrhaeddais adref a chwblhau fy ngwaith cartref eisteddais ar sedd y gegin a meddyliais am yr holl sbwriel hyn welais heddiw ar fy ffordd adref. Sylweddolais fy mod wedi cael fy siomi. Mae'r gymuned yn ymddangos fod yna wahanol safonau i'w cael, y rhai sydd yn naturiol gydwybodol am sbwriel, a'r gwrthwyneb sydd ddim yn poeni rhyw lawer am yr amgylchedd.

Pam nag ydan yn rhoi ein sbwriel yn y biniau newydd mae'r cyngor wedi eu rhoi o amgylch ein cymuned? Fel plant cawsom ein dysgu i fynd â sbwriel adre pan rydyn ni'n mynd am dro yn y car, ac o hyd mae yna fag plastig efo ni yn y car i gasglu'r sbwriel efo'i gilydd a'i gludo adre.

Rwyf yn dweud os byddai pob person sydd yn cerdded ar hyd ein strydoedd yn codi un darn o sbwriel yr un, wedyn i bob deg person sydd yn cerdded o amgylch pob dydd byddai deg darn o sbwriel yn ein biniau; hyn yn lleihau llawer ar y sbwriel ar y strydoedd ac yn annog y genhedlaeth ifanc o blant bach heddiw ac yn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i lanhau ein cymuned.

Rwyf yn hollol ymwybodol fod yna adegau mewn pentrefi lle mae clwstwr o'r gymuned yn ymgasglu i glirio sbwriel y pentre' yn achlysurol, ac maent i'w canmol am y fenter diflino yma.

Ar ôl cael y syniad siaradais efo sampl o'r gymuned i gael eu barn am y syniad yma o bawb i godi un darn o sbwriel wrth eu bod nhw yn mynd am dro. Roeddent yn meddwl fod y syniad yn un da dros ben, a chytunwyd i annog yr awgrym a gwnaf i yr un peth ynghyd â'm teulu.

Uchelgais yr erthygl hon yw i dynnu sylw'r gymuned i sylweddoli fod rhywbeth fedrwn ei wneud i wella ein cymunedau yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Efallai fedrwch feddwl o ddifri am fy syniad a gwneud yr un peth yr wyf i wedi dechrau ei wneud.

Gan: Huw Rowcliffe, 17 oed o Ysgol Dyffryn Teifi

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý