Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llandysul Oes angen ffordd osgoi ar Landysul?
Dylan Davies sy'n dadansoddi'r dadleuon o blaid ac yn erbyn ffordd osgoi newydd i Landysul.

A oes angen ffordd osgoi ar Landysul? Dyma'r ddadl sydd wedi hollti'r gymuned ers blynyddoedd. 'Oes' yw'r ateb yn ôl y rhai sydd yn teithio trwy'r pentref. 'Na' yn ôl perchnogion busnesau ac amgylcheddwyr Llandysul.

Yn ôl y rhai sydd yn erbyn y syniad, byddai hyn yn drychineb i fusnesau bychain, gan na fyddai pobl sy'n teithio yn galw i mewn. Y cwestiwn yw, faint o bobl sy'n teithio trwy'r pentref sydd yn aros beth bynnag - gan fod yna broblem parcio yn Llandysul.

Er bod maes parcio i'w gael yn y pentref, faint sy'n barod i barcio yno a cherdded fyny'r rhiw at y siopau. Bach iawn byddem yn tybio. Felly, maent yn gyrru trwyddo. Hefyd, dydy'r carafannau sy'n teithio trwy'r pentref braidd byth yn aros gan eu bod wedi dod a'u bwyd yn barod.

Yn fy marn i bach iawn fyddai effaith cael ffordd osgoi i Landysul yn ei gael ar fusnesau yn y pentref, heblaw am 'Valley Services' efallai gan eu bod nhw yn dibynnu ar bobl sy'n gyrru heibio.

Wrth gwrs, mae'r ffordd osgoi wedi cynhyrfu'r amgylcheddwyr gan ei fod yn mynd i amharu ar fywyd gwyllt a harddwch naturiol Dyffryn Teifi.

Yn ôl rhai hefyd, fe all y ffordd osgoi godi nifer y troseddwyr sy'n 'ymweld' â'r pentref gan y byddai modd iddynt ddianc yn haws i goridor yr M4. Gallai gofynion plismona newid gan y byddai'n rhaid iddynt gadw eu llygaid ar agor am droseddwyr yn hytrach na chosbi modurwyr am yrru ychydig dros y cyflymdra.

Yn ôl eraill byddai dod â ffordd osgoi yn gostwng prisiau tai, ond yn fy marn i byddai'n codi'r prisiau gan y byddai'n denu fwy o bobl o'r dref i fyw yn nghefn gwlad. Wrth gwrs, anfantais yn fy marn i, yw y gallai ddenu fwy o bobl ddi-Gymraeg i ddod i fyw yma a Seisnigeiddo'r ardal.

Yn hytrach nag edrych ar anfanteision y ffordd osgoi, beth am edrych ar y manteision?
Pan fydd y ffordd wedi ei chwblhau, bydd yn golygu na fydd yn rhaid i drafnidiaeth drom fel lorïau a'r rhai sy'n teithio am yr arfordir, deithio trwy'r pentref na thros y bont sydd yn Llandysul.

Y gobaith yw y byddai'r ffordd osgoi yn dod â rhagor o waith i'r ardal lle mae gwaith yn brin. Mae parc busnes Llandysul y tu allan i'r pentref sy ar hyn o bryd yn wag ar wahân i Wasg Gomer.

Fel un sy'n teithio i'r gogledd i gerdded yn weddol rheolaidd, byddai'r ffordd osgoi o fantais.

I gloi, mae yna fwy o fanteision nag anfanteision i'r ffordd osgoi i Landysul yn fy marn i, a dw i ddim yn meddwl y byddai'n cael effaith rhy negatif ar fusnesau lleol yr ardal. Os gwnaiff y busnesau hysbysebu, pwy a ŵyr efallai gwnaiff y ffordd osgoi gynyddu eu gwerthiant. Ni all y gwaith o orffen y ffordd osgoi ddod yn ddigon cyflym i fi!

Gan Dylan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý