Â鶹Éç

J. Kitchener Davies

Prif orchest J. Kitchener Davies, yn ddiau, oedd ei bryddest 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu', a ddarlledwyd gan y Â鶹Éç pan oedd y bardd ar ei wely angau ym 1952. Ond roedd e'n dipyn mwy na bardd...

Rhinweddau newydd

Diolch i M. Wynn Thomas, un o'n beirniaid craffaf, rydym yn dechrau gweld rhinweddau yng ngweddill ei waith ac yn darganfod agweddau newydd ar ei fywyd hefyd.

Fe'i cofir, yn ogystal, fel un o arweinwyr Plaid Cymru yn y Rhondda, ac yn weithiwr diflino dros ysgolion Cymraeg yn y Cwm.

Roedd yn genedlaetholwr o argyhoeddiad dwfn a brwydrodd yn galed yn erbyn y Blaid Lafur a'i chynrychiolwyr lleol.

Er bod y cof am y dyn yn dechrau pylu, mae ei egni, ei ddyfalbarhad a'i bersonoliaeth garismatig wedi mynd yn chwedlonol ymhlith cefnogwyr yr achos cenedlaethol yng nghymoedd y De.

Cardi Caron

Ganwyd James Kitchener Davies yn 1902 a magwyd ef mewn tyddyn yn ardal Cors Caron, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Tregaron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Gadawodd marwolaeth ei fam, ac ail briodas ei dad, graith annileadwy ar ei gymeriad.

Ymsefydlodd yn y Rhondda ym 1926 (blwyddyn y Streic Gyffredinol) ac yno treuliodd weddill ei oes yn athro Cymraeg yn ysgolion y Cwm. Un o'r tair o'i ferched yw'r awdures arobryn, Manon Rhys.

Gyda'i ddrama tair-act 'Cwm Glo', a anfonwyd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym 1934, gwelwyd fod dramodydd talentog wedi codi ei ben.

Creu Cynnwrf

Achosodd y ddrama gryn gynnwrf ar gyfrif ei bortread di-flewyn-ar-dafod o gyflwr materol a moesol cymoedd y De, gan gynnwys rhywioldeb y merched.

Barn y beirniaid oedd nad oedd y ddrama yn addas i'w llwyfannu ac atalwyd y wobr. Bu cyffro drachefn pan gyhoeddwyd y gwaith a'i berfformio yn Abertawe ac yna ar hyd a lled y De, a pharhaodd y dadlau ynglŷn â'i gywirdeb yn y wasg Saesneg a Chymraeg.

Nid oedd ei waith nesaf, drama fydryddol yn dwyn y teitl Meini Gwagedd (1945), mor dadleuol: rhithau yw'r cymeriadau sydd wedi crwydro o'u beddau yn ardal Llwynpiod ger Tregaron.

Brad ac euogrwydd yw ei themâu a'r teimlad o golled oedd yn debyg i'r un a brofodd yr awdur ar ôl ail briodas pan oedd yn gorfod symud o'r fro.

Cerdd y Ganrif

Ond yn anad dim am y bryddest 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu' y cofir am J. Kitchener Davies heddiw.

Yn ôl Gwenallt, hon oedd 'un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif'.

Monolog ddramatig yw'r gerdd am bererindod ysbrydol a pholiticaidd y bardd, o ardal amaethyddol ei febyd i anialdir diwydiannol y Rhondda.

Trwyddi draw mae'r gwynt yn cynrychioli'r pwerau dinistriol y bu'r bardd yn ceisio eu gwrthsefyll ar hyd ei oes.

Mae ei grym anghyfforddus yn deillio o onestrwydd chwerw ei hunanymholiad a'i ymchwiliad didostur i'w amcanion ei hun, ac erbyn y diwedd mae'r gwynt yn ei ysgubo, er ei waethaf, at lwybr y sant.

Mae'r bryddest yn datgan ffydd bersonol yn ogystal â'r argyfwng deallusol y teimlodd cenhedlaeth gyfan a wnaeth wleidyddiaeth yn rhan allweddol o'u crefydd.

Bu farw 'Kitch' yn ifanc, roedd yn 50 oed pan fu farw yn 1952. Cyhoeddwyd Gwaith James Kitchener Davies o dan olygyddiaeth ei weddw Mair ym 1980 a detholiad o'i waith (gol. Manon Rhys ac M. Wynn Thomas) ym 2002.

Ceir plac er cof am J. Kitchener Davies ar y tÅ· yn Heol Brithweunydd, Trealaw, lle trigodd gyda'i deulu, ac un arall ar wal y capel yn Llwynpiod.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹Éç Cymru.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.