麻豆社

John Humprhys

John Humprhys

Ar 么l dros ddeugain mlynedd mewn newyddiaduraeth, Humphrys ydy'r un sy'n codi ofn fwyaf ar wleidyddion ar y radio neu deledu. Ef sydd hefyd yn dychryn cystadleuwyr cyfres 'Mastermind' hefyd!

Dechrau'n Sblot

Ganwyd Humprhys ar Awst 17 1943 yn Sblot, Caerdydd. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed gan ddechrau ar ei yrfa newyddiadurol ar bapur lleol 'The Penarth Times' cyn troi at 'The Western Mail' ac yna i fyd teledu ar TWW, yr orsaf fasnachol o Gaerdydd. Tra'n y Western Mail, newidodd sillafiad ei gyfenw i osgoi dryswch gyda chyd-weithiwr oedd yn meddu ar yr un enw.

Ymunodd Humphrys 芒'r 麻豆社 yn 1966 a chydnabyddwyd ei ddawn yn fuan iawn gan y Gorfforaeth. Ef oedd gohebydd tramor ieuengaf y 麻豆社 yn 28 oed ac ar 么l crwydro'r byd yn adrodd helyntion di-ri fe ddaeth adref i gyflwyno y 'Nine O'Clock News'.

Pan apwyntiwyd ef yn gyflwynydd rhaglen newyddion Radio 4 'Today' yn 1987 fe gafodd amryw sioc gan nad oedd fawr o brofiad radio ganddo. Ond buan y sylweddolwyd y gallai dynnu blewyn o drwyn rhai o wleidyddion amlycaf Prydain ben bore. Pwy well felly i holi cystadleuwyr nerfus 'Mastermind'?

Ffermiwr Organig

Ar wah芒n i'w waith bob dydd, mae Humphrys hefyd yn un o gefnogwyr mwyaf ffermio organig ac nid mewn gair yn unig gan iddo redeg ffarm laeth organig ei hun am gyfnod yng ngorllewin Cymru.

Mae ganddo ddau o blant h欧n a ganwyd mab bychan newydd iddo yn 2000. Mae ei frawd iau, y gohebydd chwaraeon, Bob Humphries, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yma yng Nghymru.

Ei funud fawr, yn sicr, oedd ennyn cefnogaeth y cyhoedd ar wasg yn 1995 pan gwynodd un gweinidog o Dori am ei ddull ymosodol o holi. Ers hynny, mae swyddogion pleidiau gwleidyddol eraill hefyd wedi cyfeirio at "y broblem John Humphrys".


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.