Â鶹Éç

Islwyn

Islwyn

Bardd tra phoblogaidd tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Islwyn. Erys y cof amdano'n bennaf ar gyfrif ei gerdd hir 'Y Storm'.

Bardd y Mynydd

Ni lwyddodd erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, er gwaethaf ei ymdrechion mynych.

Serch hynny, bu'n weithgar fel beirniad eisteddfodol ac roedd yn gyfrannwr cyson i gylchgronau'r dydd.

Ganwyd William Thomas ym 1832 ger Ynys-ddu yn Sir Fynwy, gan gymryd enw mynydd cyfagos fel enw barddol sef 'Islwyn'.

Plentyn eiddil ydoedd, yr un ieuengaf o ddeg a anwyd i rieni a oedd yn hen ond yn eithaf cefnog.

Talwyd iddo gael addysg dda a bwriadwyd iddo fynd yn dirfesurydd. Ond dan ddylanwad ei frawd-yng-nghyfraith Daniel Jenkins profodd dröedigaeth grefyddol a daeth i ymddiddori'n angerddol mewn barddoniaeth Gymraeg.

Cariad coll

Y digwyddiad pwysicaf yn ei fywyd, heb os nac onibai, oedd marwolaeth sydyn Anne Bowen, merch ifanc o Abertawe y bwriadai ei phriodi.

Canlyniad uniongyrchol y profiad hwn fu llunio dwy gerdd hir o dan y teitl 'Y Storm', ac ar y campwaith hwn mae ei enwogrwydd wedi ei seilio ers hynny.

Byth wedyn arhosodd Islwyn yn ei fro enedigol, gan wrthod cymryd gofal eglwys ac ymsegru ei hun i farddoniaeth.

Ym 1864 priododd Martha Davies, hithau o Abertawe, ond amharwyd ar eu priodas ddi-blant gan gysgod Anne Bowen; yn y cyfamser, roedd mam Anne wedi priodi tad Martha.

Geiriau olaf Islwyn, yn ôl tyst, oedd, 'Diolch iti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn, 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr.'

Y Storm

Bu cryn dipyn o dyndra ym mywyd a personoliaeth Islwyn. Hyd yn oed yn ei ymddangosiad roedd yn drawiadol: roedd ganddo gorff bach a phen anferth.

Cafodd fagwraeth Seisnig ac eto roedd ei ddiddordeb yn gyfangwbl mewn barddoniaeth Gymraeg. Roedd elfennau prudd a hwyliog yn ei gymeriad.

Cyfriniol oedd nifer mawr o'i gerddi ond roedd ei grefydd yn uniongred dros ben, yn unol â chyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd.

Fel beirniad anogai ar ei gyd-feirdd rinweddau'r delyneg ond mynnai gyfansoddi cerddi hirfaith yn y dull clasurol.

Dryswyd gwerthfawrogiad 'Y Storm' am gyfnod gan O. M. Edwards a methodd wahaniaethu rhwng y ddau fersiwn yn ei argraffiad o'i waith ym 1897.

Erbyn hyn, diolch i feirniaid megis Gwenallt, Meurig Walters, Saunders Lewis, a W.J.Gruffydd, gwelir godidogrwydd mewn rhannau o'r ddau, er bod y nifer o linellau'n ddigon i ddanto'r darllenydd modern.

Pererindod yr enaid

Disgrifiadau o stormydd, rhai naturiol a rhai ffigurol, sydd yn rhan gyntaf y gerdd a chyfres o fyfyrdoddau metaffisegol sydd yn yr ail.

Pererindod yr enaid a'i fuddugoliaeth dros storm bywyd yw prif thema'r cyfan. Cymysgedd o ysgrifennu mawreddog yn null y Bardd Newydd a darnau ffres ac uruchel sydd trwyddi draw.

Ar wahân i'r 'Storm', cyhoeddodd Islwyn dwy gyfrol o'i gerddi, sef Barddoniaeth (1854) a Caniadau (1867); wedi hynny ysgrifennodd gerddi mewn cynghanedd ar gyfer eisteddfodau neu farwnadau diawen.

Bu farw Islwyn yn 1878 ac fe'i claddwyd ym mynwent Y Babell, capel yr Hen Gorff yn Ynys-ddu.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹Éç Cymru.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.