Â鶹Éç

Ian Rush

Ian Rush

Mae'n siŵr bod pêl-droed yng ngwaed Ian Rush gan ei fod yn un o saith o fechgyn a thair chwaer ganddo hefyd, wedi'i fagu yn y Fflint a'r teulu'n enwog am eu cariad at y gêm.

Dawn Sgorio

Ganwyd Ian Rush ar y 29 Hydref 1961 yn Llanelwy.Roedd ei ddawn yn amlwg yn gynnar iawn. Fe fu'n chwarae gyntaf i dîm Hawarden Rangers yng nghysgod y gwaith dur ar lannau Dyfrdwy lle'r oedd ei dad yn gweithio. Yn ddiweddarach fe gynrychiolodd dîm ysgolion Glannau Dyfrdwy.

Gan Ian Rush oedd y record am sgorio'r nifer mwyaf o goliau i'r tîm ysgolion nes i neb llai na Michael Owen chwalu ei record yn ddiweddarach.

Fe ddechreuodd Ian ei yrfa efo Caer ond yn fuan fel glywodd sgowtiaid Lerpwl a Manchester United am ei ddoniau sgorio.

Ond i'r Kop yr aeth Ian Rush ac fe ymunodd â thîm Kenny Dalglish ym Mai 1980 am £300,000 ac fe ffurfiodd y ddau bartneriaeth lwyddiannus iawn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, Ian Rush oedd prif sgoriwr ymgyrch 1982.

Torri Record

Pam fod Sir y Fflint wedi meithrin cymaint o bêl-droedwyr mawr? Rhywbeth yn y dwr? Yng Ngorffennaf 1986, fe greodd Rush record arall pan werthwyd ef i Juventus yn yr Eidal am y pris uchaf ar y pryd i bêl-droediwr o Brydain a hynny am £3.2miliwn. Daeth yn ôl i Anfield wedi ei gyfnod yno.

Tros Gymru fe greodd record arall, sef sgorio 28 gôl mewn 73 gêm.Yn un o 100 chwaraewr gorau'r Gynghrair Bêl-Droed, sgoriodd Rush 346 o goliau mewn 658 o gêmau yn ystod ei ddau gyfnod yn Lerpwl.

Symudodd i Leeds United yn 1996 ac yna i Newcastle United cyn cyfnod byr ar fenthyg i Sheffield United. Fe'i rhyddhawyd yn 1997 ac aeth i Wrecsam ond methodd â chael hyd i'r rhwyd yno ac yna'n ddiweddarach aeth i Sydney Olympic yn Awstralia.

Wedi ymddeol bu'n rheolwr clwb Caer am gyfnod byr ond ni chafodd llwyddiant yn y swydd honno. Yn Hydref 2010 soniodd y byddai diddordeb ganddo i reoli tîm Cymru ond penderfynodd yn erbyn hyn fis yn ddiweddarach. Mae wedi chwraae rhan flaenllaw fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Peldroed Cymru lle bu'n datblygu talent newydd. Yn 2010 cafodd ei enwi fel Llysgennad Ysgolion Socer Lerpwl.

Mae'n parhau i fwynhau statws arwrol fel sgoriwr mwya Cymru gyda 28 gol mewn 73 o gemau rhwng 1980 a 1996.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.