Athletwr adnabyddus o Gaerdydd a dorrodd record y byd am redeg dros clwydi. Mae e bellach yn ohebydd a chyflwynydd teledu wedi 17 mlynedd ar y brig yn y byd chwaraeon.
Dyddiau Cynnar
Ganwyd Colin Jackson ar y 18 Chwefror 1967 yng Nghaerdydd. Yn blentyn yn Ysgol Llanedeyrn, roedd gan Colin dalent am bob math o chwaraeon megis p锚l-droed a chriced i'w sir a rygbi a ph锚l fasged i'r ysgol.
Ond mae'n mynnu mai athletau a ddeuai yn fwyaf naturiol iddo fo a'i hoff gystadleuaeth oedd y 110m dros y clwydi.
Ar 么l gyrfa wych yn yr adran ieuenctid, fe enillodd ei fedal fawr gyntaf yn 1986 sef arian i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin.
Y flwyddyn ganlynol fe enillodd yr efydd ym Mhencampwriaeth y Byd ac arian arall yn Seoul yn 1988 cyn cael ei goroni yn bencampwr yn 1990 yn y Gymanwlad ac Ewrop.
Ond fe gafodd siom fawr yn Barcelona yn 1992 lle'r oedd disgwyl iddo ennill ond seithfed oedd o yn y ras derfynol. Ond yn 1993 fe greodd record newydd 12.91 eiliad yn Stuttgart ym Mhencampwriaeth y Byd.
Torri Record
Mae'r record yn dal i sefyll heb s么n hefyd am ei record o 7.30 eiliad am ras glwydi 60m yn 1994.
Fe enillodd nifer o deitlau wedyn gan gynnwys pedair teitl Ewrop o 1990 i 2002 ond nid y fedal aur Olympaidd.
Mae Jackson bellach wedi ymddeol yn dilyn Pencampwriaeth y Byd dan do ym Mirmingham ym Mawrth 2003. Mae o'n uchel ei barch ymhlith athletwyr eraill am ei ffocws, ei ymroddiad ac ar waethaf ei lwyddiannau am fod yn un o'r dynion anwylaf ac agos atoch yn y g锚m.
Derbyniodd Jackson gydnabyddiaeth swyddogol am ei lwyddiant yn 1990 pan roddwyd MBE iddo.
Ei funud fawr oedd torri record rhedeg dros y clwydi yn 1993 sy'n dal i sefyll.
Daeth Colin Jackon yn ail yn y gyfres deledu 'Strictly Come Dancing' ar 麻豆社1 ym mis Rhagfyr 2005. Ac yn 2006 bu'n destun ar gyfres y 麻豆社, 'Who Do You Think You Are?' sy'n hel achau enwogion. Roedd y darganfyddiadau am achau Colin Jackson yn ddiddorol iawn. Roedd yn gyfuniad o dras Sahara, Gwyn ac American-Indiaidd. Darganfyddodd hanes ei deulu yn Panama ac un o'i hen deidiau gwyn oedd yn berchen ar gaethweision yn Jamaica.
Mae'n wyneb cyfarwydd o hyd yn cyflwyno rhaglenni teledu am y byd chwaraeon.