Â鶹Éç

Billy Meredith

Billy Meredith

Un o sêr cyntaf y byd pêl droed ym Mhrydain.

Seren y glas a'r coch

Dyma un o sêr mawr cyntaf y byd pêl-droed yng Nghymru a chwaraeodd yng nghrysau coch a glas Manceinion - ffigwr chwedlonol i City ac United fel ei gilydd.

Roedd Billy Meredith yn enwog am gnoi wrth chwarae er mwyn canolbwyntio. Yn wreiddiol, fe fyddai'n cnoi baco ond pan wrthododd y glanhawyr olchi'r ôl poer oddi ar ei grysau, fe ddechreuodd gnoi 'toothpick!'

Ganwyd ef yn 1874 yn y Parc Du ger Wrescam. Dechreuodd ei yrfa yn chwarae'n rhan amser i dîmau lleol tra'n gweithio ym mhwll Black Park ger y Waun. Yn 1894, fe arwyddodd i Manchester City fel chwaraewr pêl-droed llawn amser. Am weddilll ei yrfa bu'n gysylltiedig â'r ddau dîm yn Manceinion.

Fe gafodd yrfa lwyddiannus iawn yno gyda City am ddeng mlynedd nes iddo gael ei gyhuddo o dwyllo. Fe'i cyhuddwyd o geisio dylanwadu ar chwaraewr mewn tîm arall i golli gêm. Ataliwyd ef rhag chwarae o ganlyniad i'r holl sgandal. Yn 1906 fe arwyddodd dros Manchester United a dechrau chwarae drostyn nhw pan godwyd y gwaharddiad.

Ailgydio wedi'r sgandal

Ailgydiodd yn ei yrfa ar y maes pêl-droed ac roedd yn ffigwr poblogaidd iawn ar y cae ac yn enwog am wibio lawr yr asgell gan ennill y ffugenw 'dewin yr asgell'. Gadawodd United yn 1921 wedi sgorio 35 gôl i'r tîm gan ddychwelyd i City a chwarae iddyn nhw am bedwar mis cyn ei ben blwydd yn hanner cant!

Fel Blaenwr chwaraeodd dros Gymru hefyd ac uchafbwynt ei yrfa oedd chwarae mewn gêm lwyddiannus yn erbyn y Saeson ac ennill 2-1. Enillodd 48 cap i Gymru a sgoriodd 11 gol yn ogystal.

Ei funud fawr oedd ennill dwy fedal bencampwriaeth a medal enillydd y gwpan yn y blynyddoedd 1908 a1911.

Cymaint o seren oedd Billy, yn 1926, fe ymddangosodd mewn ffilm yn chwarae fo'i hun fel hyfforddwr. Ond wrth iddo heneiddio, bu'n rhaid iddo ymddeol a bu farw ger Manceinion yn 84 oed yn 1958.

Claddwyd ef mewn bedd dinod am flynyddoedd. Ond wedyn penderfynodd Cymdeithas Peldroedwyr Proffesiynol, yr FA Cymreig, Manchester City a Manchester United, dalu tuag at fedd ac argraff newydd. Ac yn 2001 cafwyd gwasanaeth arbennig i gofio dewin y bel.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.