Â鶹Éç

Pobl a'u crefydd - Jason Mohammad

Jason Mohammad

Pererindod fawr Jason Mohammad yn newid ei fywyd.
Gwyn Griffiths fu'n holi'r darlledwr o Gaerdydd sy'n dilyn Islam.

Bu'r ymateb gafodd y darlledwr Jason Mohammad i'r rhaglen deledu Y Daith yn galondid mawr iddo.

Dangoswyd hanes ei bererindod bersonol o Jeddah i ddinas sanctaidd Meca ar S4C fis Tachwedd 2009.

"Daeth nifer o bobol ddi-Gymraeg a phobol sydd ddim yn arddel unrhyw ffydd ataf a dweud iddyn nhw deimlo ei bod hi'n rhaglen bwysig a gwerthfawr," meddai.

"Rwy'n falch iawn o hynny, oherwydd rwy'n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom ni sy'n Foslemiaid i egluro ein crefydd i eraill, oherwydd - yn dilyn amryw ddigwyddiadau yn y byd yn y blynyddoedd diwethaf - y mae cynifer o bobol dan gamargraff llwyr ynglŷn â natur crefydd Islam.

"Dwi ddim yn sôn am efengylu, yn hytrach egluro'n crefydd, oherwydd y mae'r Coran yn dweud wrtho ni am barchu crefyddau eraill. Yn wir, mae'n ein hannog i astudio crefyddau eraill.

"Ystyr y gair Islam yw Heddwch ac y mae pobol yn rhy barod i anwybyddu neu anghofio'r ffaith sylfaenol yna," meddai.

Cafodd Jason ei ysbrydoli i wneud y daith gan ei dad, Afzal Mohammad, sy'n enedigol o Bacistan, ac a wnaeth y bererindod yn 2006.

"Mae Mam yn deall y grefydd Islam ond heb fod yn ei harfer ac mae fy ngwraig innau yr un fath ac rwy'n gobeithio y bydd ein plant ninnau, y tri ohonyn nhw, ryw ddiwrnod, yn profi'r un ymdeimlad o fendith a llonyddwch ysbrydol ag a brofais i ar fy mhererindod," meddai.

Fel plentyn yn Nhrelai, Caerdydd, dywed iddo deimlo braidd yn eiddigeddus o blant eraill pan oedd e a'i frawd yn cael eu hanfon i ysgol y Mosque ar y Sadwrn a'r Sul i astudio'r Coran a dysgu Arabeg - "Eer mai braidd yn elfennol yw fy ngwybodaeth o Arabeg."

Heddiw y mae'n ddiolchgar am y profiad ysbrydol a'r ddisgyblaeth honno.

Os mai elfennol yw ei wybodaeth o Arabeg, dysgodd Gymraeg yn ardderchog yn Ysgol Gyfun Glyn Derw a mynd rhagddo i raddio yn yr iaith yn y brifysgol yn Abertawe.

Gwedd newydd ar fywyd

Dywed i'r profiad o sefyll o flaen y Ka'ba, y fan sanctaidd â gysylltir ag Abraham a'r proffwyd Muhammad, roi gwedd newydd ar fywyd iddo.

"Medrwn deimlo agosatrwydd at Allah," meddai.

"Rwy nawr yn teimlo 'mod i'n fwy ystyriol ac yn sicr yn llawer mwy bodlon a chysurus ynof fy hunan a phwy ydw i fel Cymro-Gymraeg a Moslem. Rwy'n poeni llawer llai am fanion bywyd - mae'r holl brofiad wedi rhoi persbectif gwahanol o fywyd i mi."

Anodd credu bod y gŵr ifanc gyda'r wên siriol, barod, byth yn gwylltio â neb er cymaint y pwysau sy'n fynych ar ddarlledwr a chyflwynydd radio a theledu ond mae hyd yn oed y pwysau hwnnw yn llai ar ôl y profiad hwn.

Nid y bu pethau'n hawdd. Bu raid wrth dri mis o drafod gyda'r awdurdodau yn Sawdi Arabia cyn cael caniatâd i'w ffilmio'n mynd ar ei Umrah, neu bererindod, gyntaf. Ond y canlyniad fu iddo ef a'r cwmni ffilmio gael pob hwylustod.

"Rwy'n fwy ymwybodol na neb mai cyfrwng ffals ac ymwthgar yw teledu ac roeddwn i'n benderfynol na fyddai felly y tro hwn yn fy hanes. Ac mi lwyddon ni."

Peth arall oedd ei fod yn mynd ar y bererindod ar ddydd cynta Ramadan, mis yr ympryd, ac yn cerdded drwy Jeddah mewn gwres oedd yn ymylu ar 50 gradd selsiws heb fwyd na diod o doriad gwawr hyd fachlud haul.

"Pryd hynny deallais i pam fod llawer o bobol yn gweithio'r nos ac yn aros i mewn yn ystod y dydd," meddai.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.