In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Iwan Roberts
11 Mawrth 2010
Iwan Roberts, Pennaeth Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Bangor yn sôn am ddilyn Eckankar
"Nid oes amodau i gariad Dwyfol - yn syml, mae'n caru. Mae Duw yn caru, nid oherwydd ein bod yn ei haeddu neu ei ennill. Y rheswm syml yw mai cariad yw Duw, felly mae Duw yn caru. Enaid ydym, creadigaeth Duw, ac mae Ef/Hi yn ein caru oherwydd mai dyma Ei natur".
Sri Harold Klemp
Mae Eckankar yn grefydd lle mae profiad personol o Oleuni a Sain Duw yn allweddol ac yn cynnig modd i ni gael y profiad o'r ddwy agwedd o Dduw sy'n gweddnewid ac adnewyddu ein bywydau ysbrydol.
Mae Eckankar yn diffinio natur Enaid yn ofalus. Mae pob person yn Enaid, gronyn o Dduw wedi ei anfon i fyw yn y bydoedd is i ennill profiad ysbrydol.
Mae'r ECK neu'r Ysbryd Glân yn ein puro o Garma (Karma) ac yn ein galluogi i dderbyn cariad Duw yn ei gyflawnder yn y bywyd hwn.
Y nod yw rhyddid ysbrydol lle gall Enaid fod yn gydweithiwr gyda Duw. Mae Karma ac Ailymgnawdoli (reincarnation)yn gredoau sylfaenol.
Yn dragwyddol
Mae Eckankar yn dysgu bod . . .
- Yr Enaid yn dragwyddol
- Yn bod oherwydd cariad Duw tuag ato.
- Yr Enaid ar siwrnai o Hunanwireddiad a Gwireddiad Duw.
Gellir cyflymu ein hymagoriad ysbrydol drwy gyffyrddiad ymwybodol â'r ECK neu'r Ysbryd Glan.
Gellir cysylltu â hyn drwy Ymarferion Ysbrydol ECK ac arweiniad yr ECK Feistr Byw.
Gellwch archwilio y bydoedd ysbrydol drwy Deithio Eneidiol, Breuddwydion a thechnegau ysbrydol eraill.
Mae profiad a rhyddid ysbrydol ar gael i bawb yn y bywyd hwn.
Goleuni a Sŵn
Yn allweddol i ddysgeidiaeth Eckankar mae'r Mahanta, yr ECK Feistr Byw sydd â'r gallu i weithredu fel Meistr Mewnol ac Allanol i fyfyrwyr ECK ac yn dysgu enw cysegredig Duw neu'r HU, sydd yn ein dyrchafu'n ysbrydol i Oleuni a Sain Duw, yr ECK.
Weithiau mae Goleuni Duw yn dod fel golygfa fewnol neu weledigaeth, weithiau fel fflach o olau gwyn neu las.
Mae Sain Duw i'w glywed yn fewnol fel sŵn dŵr yn rhuthro neu nodyn unigol y ffliwt, miwsig ffidlau, chwythbrennau neu grŵn gwenyn ac weithiau fel sŵn y gwynt a glywodd y Disgyblion amser y Pentecost.
Daw gwirionedd drwy brofiad nid drwy arsylw. Mae llwybr Eckankar yn rhoi'r cyfle i bob un ohonom agor ein hymwybyddiaeth a'n calonnau. Gallwn ddod wyneb yn wyneb a dirgelion bywyd a marwolaeth a dadorchuddio'r gwir wybodaeth sydd wedi bod mor annaliadwy.