Â鶹Éç

Aled Jones Williams yn gadael yr Eglwys

Aled Jones Williams

Mae un o offeiriaid mwyaf adnabyddus Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn gadael yr Eglwys.

A dywedodd Aled Jones Williams, ficer Porthmadog, ei fod yn ceisio cymorth yn ystod cyfnod argyfyngus yn ei hanes oddi wrth grefyddau eraill ar wahân i Gristnogaeth.

Ond pwysleisiodd ei fod yn parhau'n Gristion yn ei galon.

Bu Aled Jones Williams sydd hefyd yn llenor ac yn ddramodydd yn trafod ar Bwrw Golwg, Â鶹Éç Radio Cymru, y cyfnod anodd y bu'n ei wynebu yn ddiweddar wrth geisio dygymod â'i alcoholiaeth a'i berthynas â'r Eglwys yng Nghymru.

Wrth gael ei holi gan John Roberts dywedodd bod dau reswm i'w benderfyniad.

"Dau reswm; ar sail iechyd - bod yr alcoholiaeth wedi dod i le arbennig efo fi fel bod parhau bellach tu mewn i strwythur y sefydliad yn amhosib," meddai.

"[A] fy mod i'n teimlo bod rhywbeth yn y berthynas rhyngddo fi a'r eglwys - sydd . . . yn berthynas wenwynig a dweud y gwir yn yr ystyr . . . - sydd yn digwydd o bryd i bryd. Ac [mae] wnelo hwnna efallai rywbeth a nghefndir teuluol i lle mae'r alcoholiaeth yn magu egni. Hynny ydi'r rheswm penna mod i'n mynd.

"A'r ail, dwi'n meddwl bod fy mherthynas i a'r sefydliad wedi mynd mor bell, bellach, ei fod yn anodd, yn amhosib . . . erbyn rŵan i'w rychwantu," ychwanegodd.

  • John Roberts: Beth sydd am y sefydliad sy'n amhosib byw efo fo bellach?

"Yn y diwedd mae'n siŵr gen i fedri di ddim ond credu yn Nuw ond fedrai ddim credu yn y sefydliad mwyach; y ffordd mae pethau yn mynd.

"Dydw i ddim yn credu mai i'r cyfeiriad yna y dyla fo fynd . . . [a rydw] i'n teimlo na fedra i mwyach ddim cyfiawnhau y math o bethau sydd yn digwydd o fewn yr Eglwys.

"Codi arian ac ati er mwyn cynnal y strwythur fel ag y mae o [achos] dydw i ddim credu mai dyna'r strwythur sydd ei angen."

  • Be ydi'r diffyg gweledigaeth yn yr Eglwys felly? Be ydi'r weledigaeth fuasech chi'n lecio'i gweld hi yn ei dilyn?

"Mi fuaswn i'n lecio gweld mwy o ddychymyg ac mi fuaswn i'n lecio gweld mwy o risg a dwi'n credu fod hyn yn wir nid yn unig yn yr Eglwys yng Nghymru ond ym mhob enwad erbyn hyn.

"Ac i fod yn berffaith onest, er bod gen i ddadleuon mawr - dadleuon diwinyddol ydyn nhw - efo'r hyn ydw i wedi'i alw yn 'efengylwyr ffwndamentalaidd' dwi'n credu fod yr efengylwyr wedi cael gafael ar y peth sydd ei angen ac felly eu bod nhw wedyn trwy lot o ddychymyg , drwy gymryd lot o risgs, yn mynd i'r cyfeiriad cywir."

  • Ym mha ffordd? Mae hwnna dipyn bach yn od i'w glywed ganddoch chi os cai ddweud?

"Wel, mae'n siŵr i fod o ond yr eironi fawr mae'n siŵr gen i ydi fy mod i'n nes at yr efengylwyr na maen nhw'n feddwl ydw i.

"Y peth mawr maen nhw i wneud dwi'n meddwl, maen nhw wedi gweld [na] dydi'r enwadau ma ddim yn gweithio mwyach ac felly maen nhw'n meddwl am ffyrdd [llai] llawer symlach , llawer rhatach, llawer mwy o ddychymyg yn perthyn iddyn nhw ac felly maen nhw'n gwireddu mewn cymunedau bychan, maen nhw'n llawer mwy hyblyg . . . yn llifo'n well ac felly'n medru mynd i sawl cyfeiriad hefo'u neges.

"Y ddiwinyddiaeth ydi'r ddadl fawr rhyngddo fi [a nhw] ond mae be maen nhw'n i wneud o safbwynt strwythur . . . yn gwbl ffantastig."

  • Ond i ddod yn ôl, a derbyn eich barn am strwythurau eglwysig, y prif reswm . . . ydi'r berthynas wenwynig yma. Gai fynd ar ôl hwnna am funud bach? Mae'r eglwys wedi bod yn gysur ichi hefyd yn dydi; sut mae cysoni y cysur a'r gwenwyn?

"Perthynas cas a chariad sydd gen i wedi bod â'r Eglwys yng Nghymru erioed ac mae honno yn deillio o mhlentyndod i. Fel rydw i wedi disgrifio mewn llyfr mi oedd yna - fel oedden ni'n dweud adref - rywbeth ar lais fy nhad ac fe fûm i'n byw efo'r boen yna pan oeddwn i'n blentyn ac mi fyddwn i'n clywed pan oeddwn i'n fach cyd offeiriad [yr oedd ei dad yn offeiriad] a phlwyfolion yn dweud petha digon anghynnes am Dad . . . ac mi roeddwn i wedi gwthio hwnnw i lawr i mi'n hun ac mi roedd yna rhyw adwaith yn codi o hynny a fedrais i 'rioed . . . fedru gwthio trwy hwnna i le iach . Mi roedd o yna o hyd.

"Wedi dweud hynny ar yr un pryd dwi wedi bod yn offeiriad ers dwy flynedd ar hugain er mawr syndod imi . . . Felly rydw i wedi bod yn rhan annatod o'r Eglwys ers 53 o flynyddoedd ac ydi mae hi, wedi bod yn rhan o'r teulu a dweud y gwir, rhan o fy nodrefn mewnol i."

  • Aled, ai dweud yda chi felly eich bod chi'n dal dig at yr Eglwys ers yr holl flynyddoedd yma?

"Nac ydw, dydw i ddim yn dal dig ."

  • Mae'n swnio felly . . .

"Efallai fod o John. [Ond] poen yn fwy na dig [ydi o] a dydw i erioed wedi medru gweithio trwy beth oedd yn digwydd i Nhad.

"Fe ddaeth na bethau da allan o hwnna hefyd oherwydd fe roddodd llais fy Nhad i ar ochr, ar ymyl rhywbeth, ymyl gwan fel arfer, y moesol fel a'r fel, rhywun oedd yn dioddef mewn rhyw ffordd arbennig.

"Fe'm gosododd i'n sicr ar yr ochr yna ond mi oedd hefyd boen y plentyn ac amwni bod y plentyn yn dal yna yno fi.

"Rhywle yn fanna mae mherthynas i a'r Eglwys wedi bod . Rhywle yn fanna hefyd mae'r alcoholiaeth ddywedwn i."

  • Ond mae o'n fater o ffydd bersonol hefyd yn dydi? Roeddech chi'n sôn yn y rhaglen deledu yr wythnos diwethaf yma am ffydd eich rhieni ac na fedrech chi ddim rhannu yr un ffydd mewn gwirionedd. Pam Aled?

"Dwi'n meddwl bod yna ddeuoliaeth yno fi. Dwi'n meddwl yn y diwedd mai ymennydd anffyddiwr sydd gen i ond calon grediniol."

  • Dyna oeddwn i'n mynd i'w awgrymu. Mi fuasai yna rai pobl yn dweud, 'Nid methu rhannu ffydd eich rhieni [ydych] chi. Diffyg ffydd ydi o a'ch bod chi'n methu dygymod â diffyg ffydd.' Dyna fuasai rhai pobl yn ei ddisgrifio fo ynde?

"Digon teg ac i ryw bwynt maen nhw'n iawn . . . Yn y bôn fy nealltwriaeth i o grefydd ydi Teimlad. Rhywbeth ydych chi'n ei deimlo a'r teimlad o drosgynoldeb, rhywbeth llawer mwy na fi a'r profiad hwnnw yn Eglwys Llanwnda ddisgrifiais i yn y rhaglen [deledu a ddangoswyd wythnos ynghynt ar S4C] o fynd i mewn i'r Eglwys fy hun bach, sleifio at yr allor, a'r profiad emosiynol - roedd o'n fwy nag emosiwn hefyd - o ffeindrwydd, o dosturi, o gariad. Ches i rioed brofiad o Dduw fel barnwr. Erioed.

"Pan oeddwn i wedyn yn prifio ac yn mynd i mewn i'm ymennydd i roedd fy ymennydd i yn cwestiynu'n dragwyddol a dyna pam rydw i'n dweud mai ymennydd anffyddiol ydi o ond mae nghalon i'n dal i wybod rhywbeth arall.

"Rois i rhyw bennill gan Alafon ar garreg fedd fy Nhad ; Ond gwyr fy nghalon yn fwy na'm pen ac yn fanno ydw i a dweud y gwir. Mae gen i galon hollol grediniol a dydw i rioed wedi medru . . . rhoi y meddwl yn y galon. Mae'r ddau ar hyn o bryd ar wahân"

  • O adael yr Eglwys, ydych chi'n gadael yr offeiriadaeth a'r Eglwys ynteu jyst gadael yr offeiriadaeth?

"Wel, fel eglwyswr da, mae hi'n amhosib iti adael yr offeiriadaeth . . . Yr ymadrodd mawr ges i fy nysgu yn y coleg diwinyddol oedd the character indelible. Hynny ydi, bod yna rywbeth ar ddydd dy ordeinio wedi ei stampio arna ti ac felly rhywsut neu'i gilydd mae'n emosiynol amhosibl imi adael . . .

"Dwi di sgwennu rhyw gerdd a dwi'n dweud yn fanno fy mod i'n gadael yn ddau Aled . . Na, i ateb y cwestiwn yn blwmp ac yn blaen, dydw i ddim yn gadael yr offeiriadaeth ond mi rydw i yn gadael y sefydliad.

  • Fyddwch chi'n cael eich tynnu at sefydliad arall neu at eglwys arall? Hynny ydi, mae cymdeithas yn beth eithriadol o bwysig i ffydd hefyd yn dydi?

"Ydi - dyma y peth mawr ac efallai bod hyn yn swnio'n haerllug ofnadwy ond dwi'n edrych o nghwmpas a dydw i ddim yn gwybod lle i fynd a dweud y gwir a rydw i'n dyheu am gymuned.

"A phan fyddai'n edrych ar enwadaeth Cymru mae nghalon i'n suddo a dydw i ddim yn gwybod ar hyn o bryd lle byddai'n mynd a dweud y gwir ond mawr wybod bod angen y gorlan yma a'r gymuned arnai ond . . . enwadau eraill? Be ar wyneb daear Duw ydi'r gwahaniaeth rhwng Presbyteriaeth ac Annibyniaeth dydw i ddim yn gwybod lle i fynd."

  • Yda chi'n cael eich tynnu at rywbeth fel Bwdhaeth?

"Mae gen i ddiddordeb enfawr wedi bod erioed mewn Bwdïaeth er pan oeddwn i'n blentyn. Mae yna rywbeth am ffigwr y Bwda sydd yn fy nenu i [ac] mae yna rai pethau yn y fetaffiseg ar un wedd sydd yn fy nenu i .

"Y peth mawr ydw i'n gael o Fwdïaeth ar hyn o bryd ydi y gallu yma i fyfyrio . . . mae hwnna i adict fel fi yn beth pwysig iawn. Tawelu'r meddwl ydi hwnna - ond i Gristionogaeth rydw i'n perthyn.

Mi ddwedodd T S Eliot rywbeth, yr oedd o wedi cael ei ddenu ar y cychwyn tuag at Fwdistiaeth ond fe sylweddolodd o fod ei holl ddiwylliant o yn perthyn i'r diwylliant Cristnogol ac mae Cristnogaeth a'r Eglwys fel man geni enfawr arnaf i a fedrai mo'i wared o.

"Felly byddai mynd at ryw grefydd arall dwi ddim yn credu'n bosibl ond mi fedrai gael pethau eill gyfoethogi mywyd i ar hyn o bryd oddi wrth grefyddau eraill."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.