Gweplyfr a'r ffilm
Mae'n syndod weithiau cymaint o ddaioni sy'n gallu deillio o ganol blerwch a gwendid dynol, ynghanol ansicrwydd ein ffaeleddau, yn ogystal â'n dawn a'n hathrylith.
Wedi bod yn gwylio'r ffilm arobryn The Social Network yr oeddwn i, a sylweddoli sut y ganwyd Facebook o sefyllfa felly ym Mhrifysgol Harvard o Hydref 2003 ymlaen.
Hen ffrindiau
Fel y gwyddom, gall safleoedd rhyngweithio fel hyn esgor ar gamddefnydd ond o mhrofiad innau o'r Gweplyfr mae 'na lawer iawn o fendithion.
I mi yr un mwyaf trawiadol ydy dod i gysylltiad unwaith eto â hen gyfaill.
Llwybrau bywyd wedi mynd i wahanol gyfeiriadau, ond y dechnoleg yn foddion i uno bobl drachefn. Gall y cysylltiad ar Facebook arwain at y cysylltiad gorau ohonyn nhw i gyd - sef cyfarfod "wyneb yn wyneb". Does dim i gymryd lle hwnnw wrth gwrs.
Ond dwi'n meddwl y gall rhwydweithiau fel hyn leddfu unigrwydd, ac mae astudiaeth wedi ei wneud yn honni bod pobl yn teimlo yn llai ynysig o fod ar y Gweplyfr.
Syndod bob dydd
Mae'n ffynhonnell ddihysbydd o syfrdanau bach dyddiol - fel hen ffrind o ugain mlynedd yn ôl yn cysylltu eto.
Cysur felly i ni gyd ynghanol blerwch ein bywyd bob dydd ydy bod rhai ohonon ni fel Mark Zuckerberg, sylfaenydd Facebook.
Er gwaetha'r ffaith ei fod o'n cael ei bortreadu'n hynod o ddynol a ffaeledig, medrodd gyflawni bethau da.
Mae'n gysur meddwl ynghanol pa bynnag sefyllfa y canfyddwn ein hunain ynddi, bod gwe o ddaioni hefyd yno sy'n drech na chenfigen a delwedd, a bod cyfeillgarwch yn cyfri ar ddiwedd y gân.