Yr Anialwch
Mae cyfnod y Grawys yn wastad yn gwneud i mi feddwl am yr anialwch.
Dwi'n cofio cael y fraint o fynd i Israel i ddilyn camau Iesu a phatrwm mwy nag un diwrnod oedd, taith yn dechrau yn y ddinas, yna treulio amser yn yr anialwch a dychwelyd i'r ddinas wedyn.
Roedden ni'n cael ein rhybuddio i beidio â mynd â gormod gyda ni wrth fynd i'r anialwch ac, yn wir, roedd yn lle i ddod wyneb yn wyneb â ni ein hunain.
Yn ein bywydau rydym oll yn cael blasu y profiadau mawr ar ben y mynydd ond hefyd yn wynebu anialwch bywyd ambell dro.Fel y diodydd melys a chwerw a gawsom gan y Bedouin crwydrol.
Mae profiad Iesu yn yr anialwch yn dangos ei ddibyniaeth ar Dduw, ei ymddiried yn Nuw a'i ufudd-dod i Dduw - pethau a wynebwn ein hunain adeg y Grawys.
Anialwch y byd
Mae yna anialwch cyfoes yn ein byd modern y gwyddon ni i gyd amdano - ac y down i gyd i gysylltiad ag ef - digartrefedd a phroblemau cymdeithasol, troseddu, cyffuriau, creulondeb, rhyfel, camddefnyddio adnoddau'r ddaear.
Mae'r llinell yn denau iawn rhwng gwareiddiad a barbariaeth, llinell denau iawn sydd rhwng trefn ac anhrefn, rhwng diogelwch a dinistrio, rhwng gwareiddiad ac anialwch.
Yn allweddol fe bwysleisiodd TS Eliot fod yr anialwch oddi mewn i ni hefyd, yn eistedd nesa atom ar y trên tanddaear, yng nghalon ein cymydog ac yn y gwacter all fodoli oddi mewn i ni.
Gwneud inni ystyried
Mae'r Grawys yn gwneud i mi ystyried y pethau hyn. Mewn unrhyw gyfnod pan wynebwn ddisgyblaeth rydym hefyd yn paratoi ein hunain ar gyfer y nod - yn y cyswllt hwn, at ddirgelwch mawr y Pasg.
Mae 'na lwybr drwy'r anialwch at ddinas a bryn a bedd gwag.
Fel dychwelyd o'r anialwch yn ôl i'r ddinas drachefn, felly ein profiad ninnau hefyd yn dod o anialwch rhyw brofiad i ganol rhuthr bywyd drachefn.
Peth tebyg yw'r Grawys. Wedi ein hail galonogi, byddwn yn llawn egni i fedru cyfrannu eto, ac yn medru gweld y ddinas mewn goleuni gwahanol.