麻豆社

Hawliau Merched

llun: MUSTAFA OZER/AFP/Getty Images

09 Mawrth 2011

gan Mererid Mair

Dydd Rhyngwladol Merched

Roedd hi'n Ddydd Rhyngwladol Merched ddoe.
Efallai bod rhai ohonoch yn meddwl i beth sydd angen diwrnod fel hyn - mae merched a dynion yn ddigon cyfartal, a bydd y rhai ohonoch sy'n fy 'nabod yn meddwl - dyma hon wrthi yn s么n am hawliau merched eto.

Ond mewn llawer man ar draws y byd mae merched yn cael eu gormesu a'u hegsbloetio'n ddyddiol. Hyd yn oed yn ein gwlad a'n cymdeithas oleuedig ein hunain fe welwch chi ferched yn cael eu trin yn eilradd.

Paid a mwydro Mererid - da ni'n gyfartal yma. Ond yda ni? Beth am Gabinet presennol San Steffan a dim ond pedair menyw allan o 23 yn aelodau.

Y Cynulliad

Er y gallwn deimlo dipyn mwy cyfforddus am y Cynulliad gyda 28 o'r 60 aelod yn fenywod eithriad yw hynny mewn gwirionedd.

Wrth edrych ar haen uchaf cymdeithas a safleoedd o rym - dynion yw'r mwyafrif helaeth.

Bydd rhai yn hoffi dweud - mae gan ferched r么l a dynion r么l. Ai r么l dyn yn unig felly yw arwain?

Mae gan bawb gryfderau a thalentau - yr hyn sy'n bwysig ydy fod pawb yn cael y cyfle gyfrannu i bob agwedd o gymdeithas heb rwystr.

Mae cymaint o enghreifftiau o ferched yn cael eu trin yn annheg yma ym Mhrydain. Gwelais raglen yn ddiweddar lle roedd teulu Mwslimaidd mewn cyfyng gyngor yngl欧n 芒 gwneud ewyllys am fod y gyfraith Sharia yn mynnu bod bechgyn yn derbyn dwywaith yr hyn dderbyniai genethod y teulu.

Nodwyd yn ddigon teg fod disgwyl i'r brawd gynnal ei chwiorydd ond onid ydy hyn yn gwneud y chwiorydd yn ddibynnol ar eu brawd?

Ar yr un rhaglen roedd teulu oedd yn ffermio yng ngogledd Lloegr am adael y ffarm i frodyr y teulu yn unig gan anwybyddu'r unig chwaer.

Neu beth am y ddadl yn Eglwys Lloegr ar ordeinio merched yn esgobion?

Methu deall

Yn bersonol, ni allaf ddeall sut y gall yr un traddodiad Cristnogol fod yn hollol berthnasol i heddiw pan amddifedir hanner y boblogaeth rhag chwarae rhan lawn ym mywyd a gwaith y traddodiad hwnnw.

Mae heddiw'n ddydd Mercher lludw a bydd Cristnogion ar draws y byd yn cychwyn ar dymor y Gawys - cyfnod o baratoi at y Pasg ac edifarhau am ffaeleddau a methiannau.

Oni ddylem ni fel cymdeithas edifarhau am y modd mae merched yn parhau i orfod brwydro a chodi llais am yr hyn ddylai fod yn hawl gynhenid iddynt - bod pob merch yn gyfartal 芒 phob dyn?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.