Dathlodd aelod o'n heglwys ni ei ben-blwydd yn gant oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Pen-blwydd hapus iawn i'r Athro Dafydd Jenkins a fu'n dathlu'r achlysur gyda'i gyfeillion yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Wn i ddim faint ohonon ni fydd yn cyrraedd ein cant ond mae'n debyg y bydd mwy a mwy yn cyrraedd y garreg filltir honno yn y dyfodol.
Pedwar ugain oed ydy oed yr addewid i ni'r Cymry erbyn hyn ac mi all llawer mwy ohonon ni edrych ymlaen at fyw bywyd hir a llawn wedi i ni ymddeol.
Pendroni o ddifri
Gorwel pell ydy hwnnw i mi ar hyn o bryd cofiwch ond mae o'n dod fymryn yn nes bob blwyddyn ac felly mae'n debyg y dylwn innau fod yn meddwl o ddifri am drefniadau pensiwn a ballu.
Yn wir, mae'n hirhoedledd ni yn peri i'r Llywodraeth bendroni o ddifri ynglŷn â'r gost i gymdeithas yn y dyfodol. Bydd yn rhaid gwario cymaint mwy ar bensiynau a gofal i'r henoed. Bydd disgwyl i'r rhai sydd mewn gwaith gyfrannu llawer mwy at y rhai sydd wedi ymddeol.
Ond ai fel baich y dylen ni edrych ar yr henoed a heneiddio? Wedi'r cyfan mi ydym ni hefyd yn dibynnu llawer ar bobl hÅ·n.
Pwy warchodai blant ped âi llu o neiniau a theidiau ar streic?
Be fydde'n digwydd i lawer o'r gwasanaethau gwirfoddol y mae gwirfoddolwyr brith yn rhoi cymaint o amser i'w cynnal?
Dros ei bedwar ugain
Yn ôl y Beibl, roedd Joshua ymhell dros ei bedwar ugain oed pan roddodd Duw dasg bwysig iawn iddo fo. Y fo, yn ei henaint, a gafodd y job yn o rannu gwlad yr addewid rhwng llwythi Israel.
Mae tuedd yn ein diwylliant ni i ogoneddu ieuenctid a rhoi'r henoed o'r neilltu. Oni ddylen ni roi ychydig mwy o werth ar ddoethineb yr henoed, a chydnabod bod eu cyfraniad nhw at gymdeithas a byd cyn bwysiced ag erioed?