Â鶹Éç

Dydd cofio Dewi

Dewis Sant  - cerflun yn Neuadd y Ddinas Caerdydd

03 Mawrth 2011

gan Denzil John

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd. Gobeithio ein bod yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth cenedlaethol bod dydd o'r flwyddyn.

Tybed pa ganran o boblogaeth Cymru fydd yn cofio arwyddocâd y dydd, ac yn gwneud rhywbeth i ddathlu hynny.

I Ddewi, gwneud y pethau bychain fyddai'n cyfrif, fel siarad yr iaith a bod yn llawen ym mhob dim. Prin y byddai ef yn cymeradwyo clywed Cymry Cymraeg yn siarad Saesneg gyda'i gilydd neu rieni yn esgeuluso magu eu plant yn y Gymraeg.

Dathlu gydag alcohol

Mae'n annhebyg na fyddai Dewi yn falch o weld dathliadau gydag alcohol ychwaith. Unig ddiod y sant fyddai dŵr glân o'r ffynnon.

Beth fyddwch chi'n ei wneud i hyrwyddo'r iaith, ac i sicrhau bod y genedl yn datblygu fel cenedl? Mae gen i ofn yn aml fod nifer o'n plith yn ddibris o'n hunaniaeth a'n hetifeddiaeth.

Bu llawer o drafod yn ddiweddar am werin y cenhedloedd yn y Dwyrain Canol yn darganfod eu llais. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad wyf yn sicr sawl uned sydd yn ffurfio Libya, neu sawl llwyth a chenedl wedi eu cywasgu at ei gilydd yw'r wladwriaeth.

Gobeithio am drefn

Dyna hanes cymaint o wledyddion ar gyfandiroedd ein byd. Does gen i ond gobeithio y daw trefn o anhrefn gwledydd fel yr Aifft, Tunisia a Libya, ac y bydd pob dinesydd yn cael cyfle i ddatblygu ei hunaniaeth.

Mae parch at hawliau'r unigolyn yn lledu i fod yn barch at deulu, llwyth a chenedl. Onid dyna oedd gan Waldo mewn golwg wrth sôn am yr un gwraidd o dan y canghennau.

Neges Paul

Brawddeg yr Apostol Paul oedd ceisio meithrin dynoliaeth llawn dwf, a cheisio bod yn ddinasyddion cyfrifol gartref a ledled y byd.

Mae'r ffordd y byddwn yn parchu ein hunain, yn cael ei adlewyrchu yn ein ffordd o feddwl am eraill, onid yw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.