Â鶹Éç

Pileri'r achos

Llun capel oddi ar wefan Pillars of Faith

22 Chwefror 2011

gan Geraint Rees

Y Gymdeithas Fawr a fu

Diddorol iawn oedd gweld ym mhapurau bore ddoe ragor o drafodaeth am "Y Gymdeithas Fawr".

Aeth un papur ati i ofyn i aelodau'r Cabinet beth oedd eu cyfraniad penodol nhw i'r fath gymdeithas. Tenau iawn oedd y dystiolaeth - oni bai bo' chi'n credu fod eistedd ar un pwyllgor elusennol yn eich etholaeth yn gwneud y job.

Dydd Iau diwethaf yn Y Drenewydd roedd cynhadledd genedlaethol yn edrych ar ddyfodol gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg a'r hyn oedd yn ddiddorol oedd yr argraff mai gwaith proffesiynol gan amlaf yw gwaith ieuenctid erbyn hyn.

Peidiwch â'm camddeall, rwy'n cytuno yn llwyr fod angen gwaith ieuenctid proffesiynol gan Siroedd a mudiadau fel yr Urdd ond ni allaf weld sut y gallwn ni ddisgwyl i'r fath waith gwrdd â holl anghenion yr ifanc.

Rhyngddyn nhw i gyd, ni all ein gweithwyr proffesiynol gynnig profiadau digonol i'n pobl ifanc i'w cynorthwyo i wneud y cam hwnnw o blentyndod i fywyd oedolyn. Fel mae'r Americanwyr yn dweud, "Mae'n cymryd pentre cyfan i fagu plentyn".

Yn y Rhondda

I'w wrthgyferbynnu â'n sefyllfa gyfoes, byddai'n dda i chi edrych ar wefan sy'n rhoi darlun i ni o gymdeithas fawr fu'n bodoli yng Nghymru. Os chwiliwch chi am Rhondda Pillars of Faith ar y we, cewch ddarlun o hanes Anghydffurfiaeth yn y Rhondda.

Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, roedd dros 150 o gapeli yn y ddau gwm cul, gyda thua 90,000 o seddi ar gyfer y boblogaeth.

Adeiladwyd pob un heb na grant na chyfraniad gan y llywodraeth. Aeth oedolion, a wyddent ystyr y geiriau "llafur caled" ati i adeiladu temlau fel canolbwynt i'w holl fywydau - gan greu bwrlwm cymunedol anhygoel i'r ifanc.

Petaech chi wedi mynd i Bethania, Treorci, ganrif yn ôl byddech wedi ffeindio dros fil o bobl yn yr ysgol Sul. Roedd yr ysgol Sul hefyd yn esgor ar glybiau yn ystod yr wythnos: gwnïo i ferched, corau plant ac oedolion, grwpiau trafod ac yn y blaen.

Roedd oedolion yn dod adref wedi diwrnod hir o waith mewn pwll glo neu athro o'i ysgol ddyddiol gyda 70 o blant yn ei ddosbarth ac yn mynd ati i gynnal gweithgareddau i blant ym mhob pentref yng Nghymru.

Creu cymdeithas

Bu i'n cyndeidiau greu cymdeithas wirioneddol fawr.

Rwy'n tybio fod dyfodol ein hiaith a'n gwareiddiad yn mynd i ddibynnu ar ein parodrwydd ni i wneud yr un peth eto - nid am resymau gwleidyddol ond am resymau mai dyma mae hi'n ei gymryd i gadw'n cymdeithas yn iach.

Edrychwch ar Pillars of Faith y Rhondda i gael eich hysbrydoli, a hynny er lles yr ifanc a'r hen, heb unrhyw agenda gwleidyddol.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.