麻豆社

Dal i gredu

gan Owain Llyr Evans

17 Chwefror 2011

Pethau newydd i gredu ynddynt

Dechrau'r wythnos, cyhoeddodd plismon y cyfryngau: OFCOM; y bydd, o ddiwedd y mis ymlaen rybudd bychan bach yn ymddangos ar ein sgrin teledu i dynnu ein sylw at y ffaith bod cwmn茂au wedi prynu'r hawl i osod eu cynnyrch hwnt ac acw ar set y rhaglen honno er mwyn ein denu i'w prynu.

Rhag inni gael ein twyllo gan y fath hysbysebu tawel, gwelir y rhybudd du a gwyn, llythyren P wen ar gefndir P ddu, i'n hamddiffyn rhag product placement.

Enwau plant

Efallai bod angen gosod y rhybudd hwnnw yn erbyn product placement ar buggies, prams ac ymhob stafell ddosbarth bron iawn.

Mae arolwg diweddar yn dangos fod mwy a mwy o rieni yn dewis enwi ei plant ar 么l nwyddau arbennig, er enghraifft; Chanel, Armani, Chivas Regal a hyd yn oed Pepsi.

Yn wir, ges i'r cyfle ddiwedd yr wythnos aeth heibio i gyfarfod 芒 Porsche - un bach ydoedd, deg pwys erbyn hyn, yn cysgu'n dawel braf.

Mae dewis enw i'r bychan wedi bod yn beth lletchwith erioed ac mae'n anodd darogan pryd bydd y duedd o fenthyg enwau nwyddau arbennig yn enwau i'n plant yn parhau ond mi gredaf fod yr enwau a ddewiswn i'n plant yn dangos beth sydd wir yn bwysig i ni.

Cawn gipolwg ar ogwydd ein cymdeithas pan welwn rieni'n dewis galw'r plentyn yn Chardonay!

Dewiniaid hysbysebu

Wrth hel meddyliau mi ddois ar draws cyfeiriad at Belief Brands

Yn 么l dewiniaid hysbysebu, mae ambell gwmni masnachol, bellach, yn frand, ac fel brand yn cynnig nid yn unig bethau i ni eu prynu ond hefyd set o gredoau i ni fyw ein bywyd wrthynt.

Ymhlith y Belief Brands mae Disney - sydd yn esbonio pam mae pobl yn tyrru i Disney World i briodi.

Harley-Davidson yn un arall ac os ydych yn berson Harley-Davidson o'ch coryn i'ch sawdl fe allwch, pan ddaw eich hamser i ymadael 芒'r byd hwn, gael eich claddu mewn arch a wnaethpwyd yn arbennig gan y cwmni hwnnw.

Dyna beth yw arallgyfeirio!

Yr hen Galvin

Fe berthyn yr hen Galvin hefyd i'r Belief Brands a chyn i aelodau'r Hen Gorff gynhyrfu, rhaid dweud nad y Calvin hwnnw ond Calvin Klein sydd yn perthyn i'r Belief Brand, neu Brief Brand efallai.

Wrth gwrs bod yn rhaid i bobl gael credu mewn rhywbeth ond does bosib fod gwell pethau i gredu ynddynt na gwin, ceir a dillad isaf.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.