麻豆社

Milltir arall

Harri Owain Jones

05 Ionawr 2011

gan Harri Owain Jones

Cynnal breichiau

Yr oedd pennawd mewn papur dyddiol yr wythnos hon yn annog, "Prynwch ddau a thalwch am dri."

Do, fe glywsoch yn iawn - sylw cwbl groes i'r rhai welsom ni cyn y Nadolig.

Hysbyseb mewn ffenest siop yn Lloegr ydoedd - y perchennog yn protestio yn erbyn y codiad yn y dreth ar werth ac mi ddenodd yr hysbys bobl i'r siop nid i brynu ond i dynnu sylw at y camgymeriad tybiedig.

Defnyddiodd y siopwr y cyfle i draethu ar ei brotest. Yn sicr mae cydymdeimlad 芒'r siopwr ond protest negyddol ydoedd mewn ffordd.

Angen mwy

Oherwydd colli swyddi a'r toriadau ar wariant cyhoeddus, dywedir wrthym y bydd galw am fwy o wasanaeth gwirfoddol i helpu teuluoedd, y di-waith, pobl ac anghenion arbennig a'r henoed.

Dywedir y bydd hyn yn cynyddu consyrn pobl am ei gilydd.

Mae gennym ymadrodd sydd yn rhan o'n hiaith bob dydd bellach ond a daeth yn wreiddiol o'r Beibl. Wrth feddwl am bobl sy'n rhoi mwy o wasanaeth na'r disgwyl dywedir eu bod yn barod i fynd yr ail filltir.

Yr oedd y siopwr am i'w gwsmeriaid wybod fod pob dim yn ei siop yn costio mwy ond yn llawer mwy cadarnhaol mae cymdeithas yn dweud bod gwasanaeth pobl i'w gilydd yn mynd i gostio mwy ohonynt eu hunain, i helpu eu cyd-deithwyr ar daith bywyd.

Pobl ar eu gorau

Nid yw'r un ohonom yn dymuno gweld neb yn colli ei waith na chwaith yn dioddef oherwydd nad oes cymorth swyddogol i'w gael ond efallai, y flwyddyn hon, os bydd y darogan am effeithiau y toriadau yn wir, y gwelwn bobl ar eu gorau yn barod i helpu a chynnal ei gilydd ac yn barod i fynd yr ail filltir.

Bydd pobl yn cwyno ac yn pryderu ac nid heb achos ond ochr arall i'r geiniog yw y bydd eraill o waelod calon yn barod i fynd yr ail filltir i helpu a lleddfu gofidiau ei gilydd.

Gawn ni ofyn:
A glywaist ti ein Iesu
Yn galw ni'n gyt没n?
I ddangos bod ei gariad
At bob anghenus un.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.