Yr holl ffws
Ydach chi wedi sylwi ar yr angylion yn yr eira erbyn hyn?
Mi ges i ddiwrnod i'r brenin ddoe. Efallai taw magwraeth mewn lle fel Trawsfynydd ymysg mynyddoedd Gwynedd sy'n gyfrifol am y peth ond dwi ddim yn deall yr holl ffws yma ynghylch eira.
Os nad oes modd i chi fynd allan - arhoswch adra o flaen tân. Os oes modd i chi fynd allan - gwnewch hynny'n ofalus - ond plîs, peidiwch â gwneud môr a mynydd o'r peth.
Pam bod yr holl bapurau yn meddwl bod y byd yn dod i ben os ydi'r eira yn eich rhwystro rhag gwneud ambell beth pan fo'r gaeaf ar ei waethaf? Onid peth felly ydi'r gaeaf?
Tipyn o ymarfer
Beth bynnag, cyn gwneud ychydig o siopa angenrheidiol fe es i'r 'gym' i ymarfer rhywfaint bore ddoe ac fe aeth amser heibio'n gynt oherwydd y rhaglenni a oedd ar y pedwar neu'r pum teledu o'm blaen.
Roeddan nhw fel côr o angylion a dyna ddewis - gweld rhaglen ar fywyd Cliff Richard neu raglen arall am fywyd a gyrfa George Best.
Ia - George Best enillodd. Beth arall fydda cefnogwr ffyddlon Manchester United yn ei wneud?
Dwi'n ddigon hen i gofio'r helynt ynghylch dirwyn gyrfa George Best i ben. Roedd yna lot o ffws.
Dyn tawel diymhongar o'r enw Matt Busby geisiodd ei orau i gael trefn ar yr athrylith hunan ddinistriol hwnnw o Ogledd Iwerddon.
Ddoe, fe groeswyd trothwy arbennig yn hanes un o glybiau pêl-droed mwya'r byd. Erbyn hyn, mae Alex Ferguson wedi gwasanaethu'r clwb yn hirach na Matt Busby hyd yn oed.
Er tegwch iddo, fe welodd Ferguson yn dda i ddweud yn gyhoeddus i Busby gyflawni mwy nag o.
Yn eira Munich
Y trychineb mwyaf ofnadwy gyda'r eira'n disgyn ar faes awyr Munich yn 1958 ddygodd dtîm rhyfeddol y Busby Babes i ben.
Ni ellir ond dyfalu y byddai Busby wedi bod yr un mor llwyddiannus ar bapur a Ferguson oni bai am y noson honno. Lladdwyd wyth chwaraewr ac fe ddygwyd gyrfa dau arall i ben yn eira Munich.
Chwaraewr o'r un cyfnod, Paddy Crerand, ddywedodd nad oedd ganddo gof clywed Busby yn codi ei lais ar unrhyw un - na rhegi ychwaith. Yn wahanol iawn i Ferguson efallai. Roedd golwg ei wyneb yn ddigon.
Os nad ydach chi wedi gweld yr angylion o gwmpas yr eira eleni - peidiwch â phoeni - petha diymhongar ydi angylion - tydy nhw ddim yn hoffi ffws.