Â鶹Éç

Rhedeg

gan Aled Edwards

13 Rhagfyr 2010

Ers rhyw bum neu chwe mis bellach mae gen i ddiddordeb newydd. Fel y gwÅ·r fy nheulu a'm cydweithwyr, hyd syrffed mae'n debyg, dwi wedi dechrau rhedeg.

Dydd Sadwrn diwethaf mi oeddwn i fod i redeg hanner marathon yn Waterford yn Iwerddon.

Ymysg rhedwyr mae Waterford yn enwog am fod ychydig bach yn rhy hir fel hanner marathon a chyda rhyw fath o resymeg Geltaidd mi wnes i feddwl; gan fod hanner marathon Caerdydd eleni yn rhy fyr y byddai rhedeg Waterford hefyd yn gwneud dwy hanner marathon gyfan - os ydach chi'n deall be dwi'n feddwl.

Ond oherwydd y rhew fe drodd hanner marathon Waterford yn fyrrach na'r disgwyl.

Mynd am y llo aur

Toedd dim byd arall i'w wneud felly fbore Sadwrn diwethaf ond mynd i lawr ar gyfer Parkrun Caerdydd am ras gyflym "Pump K" - rhyw dair milltir mewn hen bres.

Mi benderfynais fynd am y llo aur hwnnw ymysg rhedwyr - y "PB" holl bwysig - hynny yw, y "personal best."

Mae rhai yn meddwl fy mod i'n wirion bost yn rhedeg fy oedran i. Fyddwn i ddim yn dymuno rhoi'r argraff i chi'r bore yma fy mod i'n gystadleuol ond mae'n golygu llawer i mi fy mod i'n medru rhedeg tair milltir yn gyflymach rŵan nag ar unrhyw adeg yn fy mywyd. Mewn rhyw 27 munud.

Medru rhedeg a siarad

Ar y daith, mae gen i gyfeillion Cymraeg sydd wedi mynd yn gyflymach na fi: Gwenno, Geoff ac Eirian. Maen nhw'n help.

Mae rhai ohonyn nhw'n medru rhedeg a siarad yr un pryd. Mae jyst anadlu yn ddigon i mi pan dwi'n rhedeg. Mae gen i beiriant bach I-Shuffle sy'n helpu ar rasys hirion drwy chwarae cerddoriaeth.

Dwi wedi canfod gwirionedd mawr mewn bywyd - mae emynau yn gwneud i mi redeg yn araf - mae caneuon Dire Straits, Clapton ac X Factor yn gwneud imi gyflymu.

Weithiau - ar ben bryniau hir - mae'r teclyn bach cerddorol yn ynganu gwirionedd mewn acen Americanaidd "Your battery is low."

"Gwir a leferaist," meddwn innau.

Dilyn 'X-Factor'

Diolch i ryfeddod y teclyn bach dwi wedi llwyddo i wrando ar ganeuon X-Factor am oriau ar y ffordd eleni. Fe fyddwn i wedi cadw Cher ar gyfer uchafbwynt neithiwr ond Matt oedd fy ffefryn.

Tybed, faint ohonon ni fyddai'n dymuno ennill X-Factor? Fe ddywed y broliant bod y sioe yn profi y gall pob un ohonon ni fod yr hyn yr ydan ni'n dymuno'i fod.

Ond na - profi y mae y gall un ymysg cannoedd o filoedd ohonon ni fod yr hyn yr ydan ni'n dymuno ei fod.

Yn y cyfamser, fe all y gweddill ohonon ni fwynhau "PBs" newydd bywyd gyda chymorth ambell gyfaill ac ambell gân. Beth amdani?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.