Mae hi wedi bod yn wythnos ryfeddol. Mae heddiw yn addo'i ryfeddodau ei hun. Er mor gynnar y bore - helpwch fi i gastio'r ddrama.
Bnawn Mawrth dyma John Walter Jones yn ymddiswyddo fel Cadeirydd Awdurdod S4C gan ei ddisgrifio ei hun fel "meidrolyn di-nod."
Yng Ngeiriadur y Brifysgol mae dau ystyr i 'meidrol':
(a) cadarn, nerthol, galluog, grymus a
(b) un ag iddo derfynau neu gyfyngiadau, terfynedig.
Yr Awdurdod cofiwch yw bugeiliaid y sianel ac mae'n ddrama ynddi'i hun.
Fore Iau dwaetha pleidlais FIFA ar Gwpan y Byd oedd dan sylw. Dwy bleidlais gafodd Lloegr - un yn bleidlais y Sais ei hun ac felly fe gostiodd y bleidlais arall bymtheg miliwn o bunnoedd. Dyna faint a wariwyd ar gais Lloegr a hynny, medde nhw, mewn cyfnod o argyfwng ariannol. Gan fod y Prif Weinidog yn rhan o'r tîm gellir casglu nad y nhw yw'r angylion!
A heddiw, pleidlais arall lle bydd un blaid Lywodraethol, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn edrych dair ffordd gwahanol yr un pryd. Rhai o blaid cynyddu ffioedd myfyrwyr, rhai yn erbyn a rhai yn atal eu pleidlais. Cyflwr digon diflas yw gweld yn ddwbl. Mae'r rhain yn mynd un yn waeth ond yn cytuno i anghytuno! Peth felly yw gwleidyddiaeth.
A oes tri gŵr doeth yn eu plith?
Ac yn ein Senedd ein hunain bnawn Mawrth hefyd roedd y Cynulliad yn pasio Mesur yr Iaith Gymraeg sydd, am y tro cynta erioed, yn rhoi statws i'r iaith gyda'r Gweinidog druan yn cael ei bortreadu gan rai fel Herod.
Dau gwestiwn: (a) faint o statws sydd gan y Saesneg yn Lloegr lle nad oes Cyfansoddiad cyffelyb yn bod a
(b) o wneud y Mesur Iaith yn Ddeddf ai deddfwriaeth neu'r defnydd o'r Gymraeg sydd bwysicaf yn ein bywyd bob dydd?
Yn nrama'r Geni yn Gymraeg y clywir 'Gogoniant yn y Goruchaf i Dduw ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da'.