Â鶹Éç

Doethineb i Wlad y Doethion

Aled Edwards

gan Aled Edwards
Bore Llun, Rhagfyr 6 2010

Bore Llun, Rhagfyr 6 2010

Cristnogion Gwlad y Doethion

Wrth gerdded tua'r dwyrain yng Nghaerdydd y noson o'r blaen roedd hi'n oer ac yn llithrig dan draed.

Dau ohonon ni oedd ar y ffordd - nid tri. Roedd ganddo ni anrhegion o fath: rhywfaint o wybodaeth, ewyllys da a phrofiad o ymwneud â'r rhai sydd wedi ffoi o wledydd eraill.

Mewn cyferbyniad, wedi inni gyrraedd, roedd y croeso ar yr aelwyd yn gynnes - yn wirioneddol gynnes.

Fe gafwyd preseb ar yr aelwyd honno hefyd ond nid cartref llwm oedd hwn. O'n cwmpas, cafwyd cwmni dethol o feddygon a phobl busnes; nifer ohonyn nhw yn siarad Aramaeg, iaith Iesu. Fe gafwyd bwyd - digonedd o fwyd.

Gan i ni'n dau gyrraedd yn gynnar roedd un hen arferiad wedi ei dorri. Arferiad Cristnogion Irac yw bod pawb sy'n cynnig gwahoddiad yn cyrraedd cyn y gwesteion. Y mae'n ffordd o ddangos parch.

Cael ei ladd

O gwmpas y bwrdd fe aethon ni i gyd i drafod y mater dan sylw. I'r chwith, roedd meddyg o Abertawe ac ar nos Sul arbennig ddiwedd Hydref aeth ei gefnder i addoli mewn eglwys yn Baghdad a chael ei ladd yno ynghyd a'i ddau blentyn.

Y noson honno, cafodd 56 eu lladd gan eithafwyr crefyddol.

I'r dde imi, roedd gwraig i feddyg o Gaerdydd. Beth amser yn ôl fe gafodd ei hewythr ei herwgipio, ei arteithio a'i ddienyddio. Roedd yn ddyn mewn oed ac yn esgob yng ngogledd Irac.

Wrth ddweud yr hanesion - fe dorrodd dagrau ar draws cynhesrwydd y croeso.

Graddol ddileu

Un o nodweddion rhyfeddaf ein Nadolig modern ni yw bod y ffydd Gristnogol yn graddol gael ei dileu o'r Dwyrain Canol.

Dywed fy nghyfeillion Mwslimaidd bod eithafwyr o'r fath yn lladd Mwslimiaid diniwed yn eu cannoedd mewn llefydd fel Pakistan hefyd.

Mae hynny'n wir. Ond, erbyn hyn, ceir tristwch unigryw i dranc y gymuned Gristnogol yn Irac. Aeth cymuned gref a hen yng ngwlad y doethion i rywbeth sy'n debyg o ran niferoedd i'r nifer ohonom ni sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru.

Iddyn nhw, cafwyd tro ar fyd ers rhyfel 2003.

Beth wnawn ni?

Be wnawn ni'r Nadolig hwn, felly, ynghylch y Cristnogion sy'n weddill yn Irac, gwlad y doethion?

Fe allwn ni weddïo drostyn nhw, rhoi pwysau ar awdurdodau Irac i'w diogelu, neu gadw golwg ar ymdrechion i'w symud i Ogledd Irac - i dir, iaith a chrefydd anghyfarwydd y Cwrdiaid.

Neu, efallai dderbyn rhai ohonyn nhw yma yng Nghymru?

Be wnawn ni, dywedwch, â Christnogion gwlad y doethion? Be wnawn ni'r Nadolig hwn?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.