Yn briod
Roedd yna hysbyseb - mewn cylchgrawn i amaethwyr - gan ffarmwr a oedd yn chwilio am wraig. A dyma'r hysbyseb:
Yn eisiau, gwraig a chanddi dractor. Anfoner llun y tractor.
Yna'r cyfeiriad e-bost.
Fydda peth fel'na, yn fy marn i, ddim yn sylfaen i briodas dda.
Mi wyddoch i ble dw i'n gyrru rŵan? Wel, mi fydda'n od, petawn i, sy'n byw yn y dre fwya' brenhinol yng Nghymru - Caernarfon - ddim yn cyfeirio at briodas Kate a William. Mae'r papurau newydd bore 'ma yn dal i gario'r stori.
Heb orfod poeni
Dydw i ddim yn meddwl mai arian barodd i'r ddau syrthio am ei gilydd. O, mi fydd cyfoeth ac eiddo yn rhan fawr o'r gontract ac yn y dyddiau main sy o'n blaenau ni, fydd dim rhaid i Kate boeni am na gofal iechyd na diweithdra, am addysg y plant nac am gael to - wel, toeau wir - uwch eu pennau. Ac os bydd hi am gael tractor, mi fydd y gorau o fewn ei chyrraedd hi.
Ond be ydi'r peth hwnnw, y jêl, sy'n cadw gŵr a gwraig hefo'i gilydd? I ddyfynnu, mewn tlodi a chyfoeth, mewn iechyd a gwaeledd.
Chwalu a thynhau
Fe all cyfoeth, weithiau, chwalu pethau. Be am yr holl selebs 'ma, heb 'mod i'n enwi neb?
A dw i wedi gweld adfyd, ambell dro, yn tynhau'r cwlwm. Ond nid dyna'r sylfeini. Os ydi'r sylfaen yn gadarn, neith tractor, neu ddim tractor, ddim gyrru'r briodas ar y creigiau.
Galw'r ddau
Pnawn 'ma, mi fydda i'n mynd i angladd cymdoges inni, Myfi. Roeddan ni'n claddu'i gŵr hi, Albert, wsnos union yn ôl ac yntau bron yn ddeg a phedwar ugain.
Finnau'n meddwl am Gloch y Llan, Crwys - trueni na fyddai'r 'hen gloch wedi galw'r ddau'r un pryd'. Y ddau wedi byw hefo'i gilydd, ac i'w gilydd.
Be oedd eu cyfrinach nhw? Dydi'r gair ddim gen i. A go brin y bydda nhwythau hefo'r gair, chwaith. Mae o'n rwbath na all Kate a William ei brynu - ond eto ei greu, a'i gadw.
Ga'i ddymuno priodas felly i'r ddau, a bore da i chithau - os oes gynnoch chi dractor neu beidio.