Â鶹Éç

Ceisio llonydd

gan Huw Tegid
Bore Iau Tachwedd 18 2010

Llonydd i eneidiau

Mi hoffwn i fynd â chi i Baraguay, Pompeii a Hollywood yn ystod y ddau funud nesaf.

Pam mynd mor bell, tybed? Wel, am nad oes fawr ddim arall ond trefniadau priodas y Tywysog William a Kate Middleton yn hawlio'r penawdau ddydd a nos, a bod gofyn bwrw'r rhwyd ymhellach na'r arfer os ydan ni eisiau dod o hyd i storïau eraill.

Druan ohonyn nhw - mae'n debyg na chaiff y ddau fawr o lonydd dros y misoedd nesaf a phob manylyn yn cael sylw hyd syrffed gan y cyfryngau a'u harbenigwyr, wrth i gamerâu a meicroffonau eu dilyn nhw i bobman.

Roedd hi fymryn bach yn wahanol ddeng mlynedd union yn ôl i heddiw, pan briododd Catherine Zeta Jones aelod o 'deulu brenhinol' Hollywood â Michael Douglas.

Bryd hynny, mi benderfynodd y pâr wahardd y camerâu o'u priodas, ac eithrio rhai cylchgrawn go enwog. Roedden nhw dipyn cyfoethocach o wneud hynny, fel y gŵyr pawb, ond o leiaf mi gawson nhw lonydd i fwynhau eu diwrnod arbennig.

Go brin y caiff Wills a Kate wneud hynny.

Addo llonydd

Llonydd ydi'r hyn y mae llwyth yr Ayoreo wedi gofyn amdano hefyd ym mhellafoedd Paraguay, a dyna a gawn nhw am ryw hyd, diolch i benderfyniad yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain i beidio treiddio i'w tiriogaeth nhw.

Yr Ayoreo ydi un o'r llwythi helwyr-gasglwyr olaf sy'n bod nad ydyn nhw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan. Er y byddai'r Amgueddfa'n hoffi dod i wybod rhagor am yr Ayoreo a'u cynefin, y perygl mawr ydi y byddai pobl o'r tu allan yn cario heintiau nad ydi'r llwyth wedi gorfod dygymod â nhw o'r blaen.

Diolch i'r drefn, mae'r amgueddfa'n fodlon rhoi llonydd iddyn nhw.

Dan y llwch

Draw yn Pompeii yn yr Eidal ddechrau'r mis, efallai i chi glywed fod un o adfeilion y dref enwog hon wedi cwympo a hynny, mae'n debyg, gan nad ydi'r ceidwaid yn gallu fforddio cynnal a chadw'r safle fel y dylen nhw.

Dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, mi ddifrododd llosgfynydd Vesuvius y ddinas, gan guddio'r adeiladau a'r trigolion dan orchudd o ludw.

Yr eironi ydi fod yr adfeilion wedi goroesi am ganrifoedd dan y llwch, ond o ymyrryd â nhw a'u datguddio mae'r brics a morter wedi dechrau breuo a rhannau o'r ddinas yn debyg o gael eu colli eto.

Dysgu gwers

Does dim angen edrych yn bell iawn i'r gorffennol i weld beth ddigwyddodd pan na wrandawyd ar apêl aelod o'r teulu brenhinol am lonydd.

Yng nghanol syrcas y cyfryngau, mae rhywun yn gobeithio nad yr un fydd tynged y diweddaraf i ymuno â'r Teulu Brenhinol.

A dyna rywbeth inni feddwl amdano y tro nesaf y clywn ni ohebwyr ein gorsafoedd newyddion pedair awr ar hugain yn holi ewythr chwaer-yng-nghyfraith mam cyn-ddarlithydd William a Kate am eu hatgofion niwlog amdanyn nhw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.