Y rhai sydd a sbectol i weled
O'n i yn y dre' 'ma fore Sadwrn yn casglu pâr newydd o sbectol. Dangosodd prawf llygaid fod cyflwr y llygaid yn newid - rhywbeth sy'n ddisgwyliedig wrth i berson heneiddio.
"Henaint ni ddaw ei hunan," meddai'r dywediad ond mae'n dod a phethau gydag e.
Roedd angen newid y lensys. Er gwaetha'r straen ar y boced o dalu am y pâr newydd eto o'u gwisgo y gobaith yw byddant yn llai o straen ar y llygaid - cawn weld!
Bu'r pâr newydd yn gymorth i edrych ar y gêm ddydd Sadwrn. Gêm dipyn gwell na'r hyn a welais wythnos yn ôl drwy'r hen bar. Wedyn doedd hynny ddim byd o gwbl i'w wneud â'r sbectol nag oedd?
Cerdd Dant
Nos Sadwrn gwelais wledd ar y teledu - na nid yr X Factor na chwaith Strictly ond yr Å´yl Gerdd Dant.
Ddydd Gwener ar Taro'r Post cafwyd trafodaeth am y ddwy gyntaf wrth i bobl edrych ar raglenni drwy sbectols gwahanol.
Ym myd cerdd dant chi'n cofio'r halibalŵ flynyddoedd yn ôl? Tir newydd yn cael ei dorri gan Gôr Pantycelyn o dan arweiniad y diweddar anhygoel Gareth Mitford - un y cefais y fraint o gydweithio gydag ef am gyfnod.
Bu helynt wrth i bobl wrthwynebu ei osodiadau newydd.
Ar y cyfan rydym ni'n teimlo yn eithaf saff a diogel o gael ein harwain a'n cyfeirio o fewn rhigolau cyfyng gan ofni'r newidiadau. Mae'r anghyfarwydd yn achosi dychryn a chadw lled braich os nad ymhellach bant.
Mentro ambell waith
Beth am wisgo pâr gwahanol o sbectols a mentro ambell waith i gael golwg wahanol ar bethau? Nid hen bar cyfarwydd ond un newydd. Anturio i gynefin anadnabyddus.
Tybed drwy ba sbectol y gwnaethoch chi edrych ar ddigwyddiadau Sul y Cofio ddoe - sbectol y Pabi Coch, y Pabi Gwyn neu ddim Pabi o gwbl?
Sbectol y sawl a glodforai ryfel a mawrygu symbolaeth yr Ymerodraeth ynteu y rhai fu'n cofio'n dawel am ddioddefaint, gwewyr a poen, y trallod a'r gofid o wastraffu adnoddau ac, yn bwysicach, fywydau.
Buddugoliaeth
Ddoe bu pobl yn Burma yn dathlu rhyddhau y wraig o arweinydd sy'n cael ei ystyried fel y 'Bwda Byw'.
Buddugoliaeth i'r dull di-drais, meddent, yw ei rhyddhau. Dyna'r sbectol maen nhw'n edrych drwyddio.
Byddwn yn dyheu am newidiadau, am gael golwg newydd, ond yn ofni gwneud hynny. Mae'n golygu deall safbwyntiau eraill a pharchu agweddau eraill - rhywbeth sy'n fwy sylfaenol na'r arwynebol o wisgo pâr arall gwahanol o sbectol. O'i gwisgo, byddwn yn edrych yn wahanol!