Colli'r ffordd
Ydych i erioed wedi golli'ch ffordd?
Cofiaf am hanes rhywun yn gofyn pan yn Iwerddon am gyfarwyddiadau sut i fynd i rywle a chael yr ateb rhyfeddol;
"Pe byddwn i'n mynd yno, fuaswn i ddim yn cychwyn o fama!"
Efallai bod un o swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn teimlo felly ar ôl cydnabod eu bod am wneud pob ymdrech i gywiro unrhyw wallau mewn pamffledi yn ymwneud â chynllunio ffordd osgoi'r Bontnewydd yng Ngwynedd.
Dywed John Evans, perchennog atyniad twristiaid Parc Coed Sipsi fod y pamffledyn yn dweud y bydd un o'r ffyrdd osgoi arfaethedig yn mynd "yn agos" i'r parc.
Ond pan ymchwiliodd yn fwy manwl, gwelodd y bydd y ffordd yn rhedeg drwy ganol yr ardal natur.
Hyd yn oed yn y sesiynau ymgynghori gyda'r cyhoedd, meddai, doedd hi ddim yn amlwg â fyddai'r ffordd yn mynd drwy ei dir a dim ond pan gyhoeddwyd map manwl mawr o'r llwybr y daeth y gwir yn amlwg.
"Mae'n gamarweiniol oherwydd mae pobl yn credu nad yw llwybr y ffordd yn effeithio ar unrhyw un wrth edrych ar y cynllun," meddai.
Budd-daliadau
Wrth glywed am syniadau newydd ein Llywodraeth o San Steffan i geisio ffurfio un budd-daliad a pheidio â thalu i'r rhai sydd yn gwrthod cynnig o waith deirgwaith, rhaid gobeithio y bydd rhywun yn edrych yn fanwl ar y map mawr.
Mae'n siŵr bod ambell i wleidydd yn gobeithio y bydd y cynlluniau yn dwyn rhai yn agosach at eu lle ac yn ffordd o osgoi cost enfawr budd-daliadau ar y wladwriaeth.
Neb yn colli'r ffordd
Ond fel y darganfu John Evans mae'n bosibl iddynt fynd yn groes i'r bwriad ac effeithio'n uniongyrchol ar fywydau lawer sydd yn ddi-waith yng Nghymru.
Yng nghanol y dirwasgiad presennol efallai mai peth doeth i bawb ohonom fyddai cynllunio'r ffordd ymlaen yn fanwl ac yn gywir gan obeithio na fydd neb yn colli eu ffordd yn y diwedd!