Tyrau gwahanol ein gwlad
'Beth yw'r tŵr acw ar ben y mynydd?'
Dyna'r cwestiwn a fu dan sylw gan Hafina Clwyd yn ei cholofn yn y Western Mail ddoe.
Cwestiwn sy'n cael ei ofyn gan nifer o bobl wrth iddynt deithio ar hyd a lled Cymru a sylwi ar ambell dŵr sy'n bwrw'i gysgod dros dirlun ein gwlad.
Os yw Cymru yn wlad y cestyll, gallwn ddweud hefyd nad oes prinder tyrau yma chwaith!
Y tŵr dan sylw gan Hafina Clwyd y ddoe oedd yr un ar ben Mynydd Moel Famau sy'n cael ei weld o bellteroedd.
Tŵr yw hwn a godwyd yn y flwyddyn 1810 i ddathlu Jiwbili Sior y Trydydd. Pythefnos yn ôl, cerddodd 4,000 o bobl i'r copa i nodi dau gan mlynedd ei godi.
Rhesymau da
Mae tyrau eraill ar hyd a lled y wlad. Rhai wedi eu codi am resymau digon dilys fel tyrau yn Nantyglo sy'n olion o'r hen waith haearn mewn ardal a fu, ar un adeg, yn fwrlwm o ddiwydiant.
Codwyd rhai eraill am resymau tra gwahanol!
Ar ddiwrnod clir gwelwn ni o'n cartref, dŵr yn Nyffryn Tywi a adeiladwyd gan William Paxton o barch i Nelson, ac o bosib i Paxton ei hun hefyd yn ôl pob son!
O ganlyniad, dydy ni ddim wastad yn gwybod yn iawn beth i'w wneud â'r tyrau yma i gyd a hynny oherwydd ein bod yn gwybod yn iawn bod cestyll a thyrau gwlad arall wedi bwrw eu cysgodion dros lawr ein gwlad hefyd.
Mae 'na sôn am dyrau yn y Beibl hefyd fel hanes rhyfeddol codi a dymchwel tŵr Babel.
Rhai sy'n gwarchod
Mae angen tyrau arnom yng Nghymru heddiw - ond nid rhai gormesol, ymerodrol fel un Babel.
Na rhai a gysylltir â gormes a thrais.
Ond rhai sy'n gwarchod ein hetifeddiaeth; sy'n gwarchod ein hiaith, ein diwylliant a'n hanes.
Tyrau o gig a gwaed.
Ie, chi a fi yw tyraru'r Gymru hon a da o beth fyddai i rai, o'n gweld ni o bell heddiw, ofyn "Beth yw'r tŵr acw ar ben y bryn?" - (neu ar y stryd, neu yn y dosbarth, neu tu cefn i'r cownter - a chael yr ateb, "Tŵr sy'n gwarchod ein cenned" - fel y cadwer i'r oesoedd a ddel, y glendid a fu.