Â鶹Éç

Colli dot-cym

gan Beti Wyn James
Bore Mercher Tachwedd 3 2010

Chwilio am barth

I chi sy'n ymddiddori ym myd cymhleth cyfrifiaduron mae'n siŵr bod y term 'dot com' yn gyfarwydd i chi.

'Parth' yw'r enw ar y gair sy'n dilyn y 'dot'. Er enghraifft, yn 'dot com', y 'com' yw'r parth - domain yn Saesneg.

Wel, mae rhai wedi bod yn ymgyrchu ers peth amser am barth 'dot cym' yn lle 'dot com' neu 'ddot unrhywbeth arall!'

Ie, galw maen nhw am barth sy'n cael ei adnabod fel un sy'n cynrychioli'r gymuned Gymraeg a Chymreig.

Ond clywyd yn ddiweddar nad yw 'dot cym' ar gyfer Cymru ar gael mwyach gan fod Ynysoedd Cayman wedi bachu'r enw.

Mewn datganiad i'r sawl oedd wedi arwyddo deiseb yn galw am sefydlu 'dot cym' mae'r trefnwyr wedi galw am awgrymiadau pa barth newydd ddylid ei greu gan awgrymu 'dot cymru', neu 'dot cŵl' !

Y dot

Ond, er pwysiced yw cael parth sy'n cynrychioli'r gymuned Gymraeg a Chymreig, nid gyda'r 'parth' dwi am aros y bore 'ma, ond gyda'r 'dot'!

Mae'r 'Dot' yn bwysig hefyd!!!

Wrth atalnodi, cyfeirir at y 'dot' fel atalnod llawn.

Rhoddwn 'ddot' neu atalnod llawn ar ddiwedd brawddeg. Mae'r atalnod llawn yn dynodi diwedd a chyfle i oedi a thynnu anadl, cyn cydio yn y frawddeg newydd sy'n dilyn.

Meddyliwch sut fyddai hi arnom pe na fyddai'r atalnod llawn yn ymddangos mewn gwaith ysgrifenedig! Fe fyddai pob brawddeg yn rhedeg i mewn i'w gilydd!

Gwerth oedi

Ceir tipyn o hwyl o hyd mewn ambell Steddfod wrth i gystadleuwyr geisio gwneud sens o ddarn ysgrifendig heb ei atalnodi!

Ydy, mae'r 'dot' neu'r atalnod llawn yn bwysig ac yn y byd bywiog a phrysur hwn onid oes arnom angen gosod atalnod llawn yn ei le yn ein bywydau o bryd i'w gilydd?

Ei roi, er mwyn inni oedi ar ddiwedd ambell frawddeg i ystyried yr hyn yr ydym wedi ei ddweud. I roi cyfle i rywun arall i siarad a chyfle i ninnau wrando?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.